2016 Rhif 387 (Cy. 121)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid, Samplu etc. a Gorfodi) (Cymru) 2016

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys o ran Cymru yn unig, yn darparu ar gyfer parhau i weithredu a gorfodi Rheoliad (EC) Rhif 183/2005 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod gofynion ar gyfer hylendid bwyd anifeiliaid (OJ Rhif L 35, 8.2.2005, t 1), (“Rheoliad 183/2005”) a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 152/2009 sy'n gosod y dulliau samplu a dadansoddi ar gyfer rheolaeth swyddogol ar fwyd anifeiliaid (OJ Rhif L 54, 26.2.2009, t 1), (“Rheoliad 152/2009”), a hefyd yn gwneud darpariaeth ynglŷn â gweinyddu yn gyffredinol mewn perthynas â chyfraith bwyd anifeiliaid, yn benodol er mwyn rhoi effaith i Reoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gyflawnir i sicrhau y caiff cydymffurfedd â'r gyfraith ei wirio ynglŷn â bwyd anifeiliaid a bwyd, rheolau iechyd anifeiliaid a rheolau lles anifeiliaid (OJ Rhif L 165, 30.4.2004, t 1), (“Rheoliad 882/2004”).

Mae Rhan 2 o'r Rheoliadau hyn yn ymdrin â gweithredu a gorfodi Rheoliad 183/2005, sy'n darparu y dylai bron bob busnes sy'n cynhyrchu neu’n masnachu mewn bwyd anifeiliaid, neu'n ei ddefnyddio, naill ai gael ei gofrestru neu, yn ôl y digwydd, ei gymeradwyo, gan yr awdurdodau cymwys. Mae’r gweithgareddau a eithriwyd, nad yw Rheoliad 183/2005 nac, o ganlyniad, Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn, yn gymwys iddynt, wedi eu nodi yn Erthygl 2 o’r Rheoliad hwnnw ac maent yn cynnwys—

(a)     cynhyrchu yn breifat yn y cartref fwyd anifeiliaid ar gyfer anifeiliaid nas cedwir ar gyfer cynhyrchu bwyd neu a gedwir ar gyfer eu bwyta yn breifat yn y cartref yn unig;

(b)     bwydo anifeiliaid nad ydynt yn cynhyrchu bwyd;

(c)     bwydo anifeiliaid a gedwir ar gyfer eu bwyta yn breifat yn y cartref neu ar gyfer cyflenwi yn uniongyrchol feintiau bychain o gynhyrchion crai gan y cynhyrchydd i'r defnyddiwr terfynol neu fanwerthwyr lleol;

(d)     cyflenwi, yn uniongyrchol gan y cynhyrchydd, feintiau bychain o fwyd anifeiliaid, a gynhyrchir fel deunydd crai, i ffermydd lleol i'w ddefnyddio ar y ffermydd hynny; ac

(e)     manwerthu bwyd anifeiliaid anwes.

Yn benodol gwneir darpariaeth yn Rhan 2 ar gyfer—

(a)     dynodi'r awdurdodau cymwys at ddibenion y gwahanol swyddogaethau a grybwyllir yn Rheoliad 183/2005 (rheoliad 4);

(b)     nodi’r darpariaethau hynny o Reoliad 183/2005 y mae methiant i gydymffurfio â hwy yn drosedd (rheoliad 5 ac Atodlen 2);

(c)     nodi’r gofynion y mae’n rhaid eu bodloni gan unrhyw un—

                           (i)    sy'n hysbysu'r awdurdod gorfodi gyda’r bwriad o gofrestru sefydliad busnes bwyd anifeiliaid (rheoliad 6); neu

                         (ii)    sy'n gwneud cais am gymeradwyo sefydliad busnes bwyd anifeiliaid (rheoliad 7);

(d)     gosod y gweithdrefnau sydd i'w dilyn gan awdurdod gorfodi wrth—

                           (i)    atal dros dro gofrestriad neu gymeradwyaeth sefydliad busnes bwyd anifeiliaid (rheoliad 8);

                         (ii)    dileu ataliad dros dro ar gofrestriad neu gymeradwyaeth (rheoliad 9); neu

                       (iii)    dirymu cofrestriad neu gymeradwyaeth sefydliad busnes bwyd anifeiliaid (rheoliad 10);

(e)     nodi’r gofynion sydd i'w bodloni gan unrhyw un sy'n gwneud cais i ddiwygio cofrestriad neu gymeradwyaeth (rheoliad 11);

(f)      darparu ar gyfer hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau a wneir gan awdurdodau gorfodi ynghylch cofrestriadau neu gymeradwyaethau (rheoliad 12); ac

(g)     pennu'r ffioedd sy'n daladwy gan ymgeisydd am gymeradwyaeth neu am ddiwygio cymeradwyaeth (rheoliad 13 ac Atodlen 3).

Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gweithredu Rheoliad 152/2009 ac yn cynnwys darpariaethau eraill mewn perthynas â samplu a dadansoddi, yn benodol drwy—

(a)     gwneud darpariaeth ar gyfer penodi dadansoddwyr amaethyddol a rhagnodi cymwysterau gofynnol ar gyfer person a benodir (rheoliad 14);

(b)     gosod y weithdrefn sydd i’w dilyn wrth gymryd a rhannu samplau ar gyfer eu dadansoddi (rheoliad 15);

(c)     darparu ar gyfer dadansoddiad eilaidd o sampl, sydd i’w gyflawni gan Labordy Cemegydd y Llywodraeth (rheoliad 16);

(d)     gwneud darpariaeth ar gyfer anfon samplau neu eu traddodi â llaw (rheoliad 17);

(e)     rhagnodi ffurf tystysgrif o ddadansoddiad a’i statws fel tystiolaeth (rheoliad 18);

(f)      gwneud darpariaeth ar gyfer dulliau dadansoddi pan nad yw’r samplu wedi ei gyflawni yng nghwrs rheolaethau swyddogol (rheoliad 19); ac

(g)     gwneud llurgunio sampl neu ymyrryd â sampl rywfodd arall yn drosedd (rheoliad 20).

Mae Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaethau mewn perthynas â gweithredu a gorfodi’r Rheoliadau hyn, sef yn benodol—

(a)     pennu mai dyletswydd pob awdurdod bwyd anifeiliaid, o fewn ei ardal, yw gorfodi’r Rheoliadau (rheoliad 21);

(b)     gwneud darpariaeth ar gyfer penodi un neu ragor o bersonau gan Weinidogion Cymru i ymgymryd â swyddogaethau awdurdod bwyd anifeiliaid mewn amgylchiadau penodedig (rheoliad 22(1));

(c)     gosod amodau ar arfer pwerau swyddog awdurdodedig y tu allan i ardal awdurdod lleol y swyddog hwnnw (rheoliad 22(2)); a

(d)     cyfyngu ar atebolrwydd personol swyddog awdurdodedig sy’n gweithredu’n ddidwyll (rheoliad 23).

Mae Rhan 5 o’r Rheoliadau hyn yn cynnwys pwerau gorfodi a darpariaethau sy’n ymwneud â materion cysylltiedig, sef yn fanwl—

(a)     pŵer i swyddog awdurdodedig gyflwyno hysbysiad gwella pan fo busnes bwyd anifeiliaid yn methu â chydymffurfio â chyfraith bwyd anifeiliaid benodedig (rheoliad 24);

(b)     hawl gweithredwr busnes i apelio i lys ynadon yn erbyn hysbysiad gwella (rheoliad 25);

(c)     yr hawl i wneud apêl bellach i Lys y Goron (rheoliad 26);

(d)     materion ychwanegol mewn perthynas ag apelau (rheoliad 27);

(e)     darpariaeth y caiff llys osod gorchymyn gwahardd ar weithredwr busnes bwyd anifeiliaid a gollfarnwyd am drosedd o dan gyfraith bwyd anifeiliaid benodedig (rheoliad 28);

(f)      pŵer i lys ynadon osod gorchymyn gwahardd brys ar weithredwr o dan amodau penodedig ac ar ôl cyflwyno hysbysiad priodol (rheoliad 29);

(g)     pwerau i swyddog awdurdodedig fynd i mewn i fangreoedd at ddibenion penodedig, ynghyd â phwerau arolygu cysylltiedig etc. (rheoliad 30);

(h)     pŵer i swyddog awdurdodedig gadw neu ymafael mewn bwyd anifeiliaid nad yw’n cydymffurfio, a gwneud cais i lys ynadon am ddinistrio neu waredu’r bwyd anifeiliaid (rheoliad 31);

(i)      nifer o droseddau mewn perthynas ag arfer pwerau gorfodi (rheoliad 32);

(j)      darpariaeth ar gyfer adennill gwariant a dynnwyd gan yr awdurdod gorfodi wrth ymdrin â methiant i gydymffurfio (rheoliad 33);

(k)     y cosbau mwyaf y caiff llys eu gosod am droseddau o dan y Rheoliadau hyn (rheoliad 34);

(l)      amddiffyniadau rhag troseddau o dan gyfraith bwyd anifeiliaid benodedig (rheoliad 35);

(m)   darpariaeth y caiff personau cyfrifol o fewn cyrff corfforaethol neu bartneriaethau Albanaidd, mewn amgylchiadau penodedig, fod yn atebol yn bersonol am droseddau a gyflawnir gan y cyrff hynny (rheoliad 36);

(n)     darpariaethau ynglŷn ag ym mhle y caniateir dwyn achos am drosedd o dan gyfraith bwyd anifeiliaid benodedig a’r terfynau amser ar gyfer cychwyn erlyniad o dan y Rheoliadau hyn (rheoliad 37); ac

(o)     gofynion o ran cyflwyno hysbysiadau (rheoliad 38).

Mae Rhan 6 o’r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaethau sy’n gwneud diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009 (rheoliad 39) ac yn dirymu rheoliadau penodol eraill (rheoliad 40 ac Atodlen 5).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn: Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru, Llawr 11, Tŷ Southgate, Stryd Wood, Caerdydd, CF10 1EW neu o wefan yr Asiantaeth yn www.food.gov.uk/wales.


2016 Rhif 387 (Cy. 121)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid, Samplu etc. a Gorfodi) (Cymru) 2016

Gwnaed                               15 Mawrth 2016

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       17 Mawrth 2016

Yn dod i rym                              12 Mai 2016

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 66, 67, 74A, 79 ac 84 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970([1]) ac adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno([2]).

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â mesurau sy’n ymwneud â bwyd anifeiliaid a gynhyrchir ar gyfer neu a fwydir i anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd([3]), mesurau yn y meysydd milfeddygol a ffyto-iechydol i ddiogelu iechyd y cyhoedd([4]) a mesurau mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd ([5]).

Fel y nodir uchod, mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru yn hwylus dehongli cyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at offeryn UE a grybwyllir yn rheoliad 2(5) fel cyfeiriad at yr offeryn hwnnw ac unrhyw Atodiad iddo fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.

Ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio’r Rheoliadau hyn yn unol â gofynion Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor, sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd([6]) neu, yn achos darpariaethau sy’n ymwneud â bwyd anifeiliaid ar gyfer anifeiliaid nad ydynt yn cynhyrchu bwyd, yn unol ag adran 84(1) o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970.

RHAN 1

Rhagarweiniol

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1. —(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid, Samplu etc. a Gorfodi) (Cymru) 2016.

(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 12 Mai 2016 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli a chwmpas

2.(1) Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “yr Asiantaeth” (“the Agency”) yw’r Asiantaeth Safonau Bwyd;

ystyr “awdurdod bwyd anifeiliaid” (“feed authority”) yw awdurdod a nodir yn adran 67(1) o’r Ddeddf fel un sydd o dan ddyletswydd i orfodi Rhan IV o’r Ddeddf honno o fewn ei ardal;

ystyr “awdurdod gorfodi” (“enforcement authority”) yw’r corff y nodir sydd dan ddyletswydd i orfodi o dan reoliad 21;

ystyr “cyfraith bwyd anifeiliaid benodedig” (“specified feed law”) yw’r offerynnau a bennir yn Atodlen 1;

ystyr “dadansoddwr” (“analyst”) yw dadansoddwr amaethyddol neu ddirprwy dadansoddwr amaethyddol;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Amaethyddiaeth 1970;

mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw sefydliad, unrhyw le, cerbyd, stondin neu adeiledd symudol ac unrhyw long neu awyren;

ystyr “modd rhagnodedig” (“prescribed manner”) yw’r modd a ragnodir gan Reoliad 152/2009;

ystyr “Rheoliad 882/2004” (“Regulation 882/2004) yw Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gyflawnir i sicrhau y caiff cydymffurfedd â'r gyfraith ei wirio ynglŷn â bwyd anifeiliaid a bwyd, rheolau iechyd anifeiliaid a rheolau lles anifeiliaid([7]);

ystyr “Rheoliad 183/2005” (“Regulation 183/2005”) yw Rheoliad (EC) Rhif 183/2005 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod gofynion ar gyfer hylendid bwyd anifeiliaid([8]);

ystyr “Rheoliad 152/2009” (“Regulation 152/2009”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 152/2009 sy'n gosod y dulliau samplu a dadansoddi ar gyfer rheolaeth swyddogol ar fwyd anifeiliaid([9]);

ystyr “Rheoliad 767/2009” (“Regulation 767/2009”) yw Rheoliad (EC) Rhif 767/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar osod bwyd anifeiliaid ar y farchnad a’r defnydd ohono, sy’n diwygio Rheoliad Senedd Ewrop a’r Cyngor (EC) Rhif 1831/2003 ac yn diddymu Cyfarwyddeb y Cyngor 79/373/EEC, Cyfarwyddeb y Comisiwn 80/511/EEC, Cyfarwyddebau’r Cyngor 82/471/EEC, 83/228/EEC, 93/74/EEC, 93/113/EC a 96/25/EC a Phenderfyniad y Comisiwn 2004/217/EC([10]); ac

ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw person (pa un a yw’n swyddog yr awdurdod gorfodi ai peidio) a awdurdodwyd gan yr awdurdod gorfodi, naill ai’n gyffredinol neu’n arbennig, i weithredu mewn perthynas â materion sy’n codi o dan y Rheoliadau hyn.

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae i unrhyw ymadrodd arall a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac y defnyddir yr ymadrodd cyfystyr Saesneg yn Rheoliad 882/2004, Rheoliad 183/2005 neu Reoliad 152/2009, yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd i’r ymadrodd cyfystyr Saesneg yn y Rheoliad hwnnw.

(3) Ac eithrio yn y paragraff hwn, pan fo unrhyw gyfnod o lai na saith diwrnod, a bennir yn y Rheoliadau hyn, yn cynnwys unrhyw ddiwrnod sy’n—

(a)     dydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig neu ddydd Gwener y Groglith; neu

(b)     diwrnod sydd yn ŵyl banc o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971,

rhaid eithrio’r diwrnod hwnnw o’r cyfnod.

(4) Yn y Rheoliadau hyn, nid yw “bwyd anifeiliaid” (“feed”) neu “porthiant” (“feeding stuff”) yn cynnwys unrhyw un o’r ychwanegion bwyd anifeiliaid canlynol nac ychwaith unrhyw rag-gymysgedd a gyfansoddir yn unig o ychwanegion o’r fath—

(a)     cocsidiostatau;

(b)     histomonostatau; a

(c)     pob ychwanegiad sootechnegol arall ac eithrio—

                           (i)    sylweddau gwella treuliadwyedd,

                         (ii)    sefydlogwyr fflora’r perfedd, a

                       (iii)    sylweddau a gynhwysir mewn bwyd anifeiliaid gyda’r bwriad o gael effaith ffafriol ar yr amgylchedd.

(5) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at Reoliad 183/2005 neu Reoliad 152/2009 yn gyfeiriad at y Rheoliad hwnnw ac unrhyw Atodiad iddo fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.

RHAN 2

Gofynion mewn perthynas â hylendid bwyd anifeiliaid, cofrestru a chymeradwyo

Cwmpas a dehongli Rhan 2

3.(1) Nid yw’r Rhan hon yn gymwys i’r gweithgareddau a grybwyllir yn Erthygl 2(2) o Reoliad 183/2005.

(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon neu yn Atodlen 2 at Erthygl neu Atodiad â rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl honno neu’r Atodiad hwnnw sy’n dwyn y rhif hwnnw yn Rheoliad 183/2005.

Awdurdodau cymwys

4.(1) Yr awdurdodau cymwys at ddibenion Erthyglau penodedig yw’r canlynol—

(a)     mewn cysylltiad ag Erthyglau 9(1) a (3), 18(3), 20(2), 21(1) a 22(2)(b), yr Asiantaeth a’r awdurdod gorfodi;

(b)     mewn cysylltiad ag Erthyglau 7, 9(2), 10, 13, 14, 15, 16, 17, 18(1), (2) a (4) a 19(2), yr awdurdod gorfodi; ac

(c)     mewn cysylltiad ag Erthygl 19(1), yr Asiantaeth.

(2) Yr awdurdodau cymwys at ddibenion yr adran sydd â’r pennawd “Dioxin Monitoring for Oils, Fats and Derived Products” yn Atodiad II yw—

(a)     mewn cysylltiad â pharagraff 2(e), yr awdurdod gorfodi; a

(b)     mewn cysylltiad â pharagraff 7, yr awdurdod gorfodi a’r Asiantaeth.

Gorfodi darpariaethau penodedig o Reoliad 183/2005

5. Mae person sy’n torri, neu’n methu â chydymffurfio, ag unrhyw un o’r darpariaethau o Reoliad 183/2005 a bennir yn y golofn gyntaf o Dabl 1 neu Dabl 2 o Atodlen 2, yn cyflawni trosedd.

Ffurf hysbysiad gyda golwg ar gofrestru

6. Rhaid i berson y gwneir yn ofynnol o dan Erthygl 9 (rheolaethau swyddogol, hysbysu a chofrestru) ei fod yn hysbysu’r awdurdod gorfodi o’r wybodaeth a grybwyllir ym mharagraff (2)(a) neu (b) o’r Erthygl honno, sicrhau bod unrhyw hysbysiad o’r fath—

(a)     yn ysgrifenedig ac wedi ei lofnodi gan neu ar ran y person hwnnw;

(b)     yn cynnwys enw’r person hwnnw ac, os yw’n wahanol, enw busnes y person hwnnw;

(c)     yn cynnwys cyfeiriad y person hwnnw ac, os yw’n wahanol, cyfeiriad unrhyw sefydliad y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef;

(d)     yn nodi’r gweithgareddau busnes bwyd anifeiliaid ym mha bynnag ffurf a fydd yn ofynnol gan yr awdurdod gorfodi; ac

(e)     wedi ei gyfeirio'n gywir at yr awdurdod gorfodi ar gyfer yr ardal y lleolir ynddi’r sefydliad y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef.

Ffurf cais am gymeradwyaeth

7. Pan fo'n ofynnol i sefydliad busnes bwyd anifeiliaid gael ei gymeradwyo yn unol ag Erthygl 10, rhaid i gais gael ei wneud i'r awdurdod gorfodi ar gyfer yr ardal lle y mae'r sefydliad wedi ei leoli ynddi sydd—

(a)     yn ysgrifenedig ac wedi ei lofnodi gan neu ar ran yr ymgeisydd;

(b)     yn cynnwys enw neu enw busnes a chyfeiriad yr ymgeisydd ac, os yw'n wahanol, cyfeiriad y sefydliad;

(c)     yn nodi pa rai o’r gweithgareddau busnes bwyd anifeiliaid a bennir yn Erthygl 10(1) neu y caniateir eu pennu yn unol ag Erthygl 10(3) y mae'r ymgeisydd yn eu cynnal neu'n bwriadu eu cynnal ac yn gofyn am gymeradwyaeth ar eu cyfer;

(d)     yn achos unrhyw berson y mae Erthygl 17(2) (esemptiad rhag ymweliadau â'r safle) yn gymwys iddo, yn cynnwys datganiad i'r perwyl bod y sefydliad yn un y mae Erthygl 17(1) yn gymwys iddo a datganiad o gydymffurfiaeth fel sy'n ofynnol gan baragraff (2) o'r Erthygl honno; ac

(e)     wedi ei gyfeirio'n gywir at yr awdurdod gorfodi ar gyfer yr ardal y lleolir ynddi’r sefydliad y mae'r datganiad yn ymwneud ag ef.

Gweithdrefn ar gyfer atal dros dro gofrestriad neu gymeradwyaeth

8.(1) Pan fo awdurdod gorfodi yn bwriadu cymryd camau yn unol ag Erthygl 14 (atal dros dro gofrestriad neu gymeradwyaeth), rhaid iddo gyflwyno hysbysiad i weithredwr y busnes bwyd anifeiliaid yn unol â pharagraff (2).

(2) Rhaid i hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (1)—

(a)     pennu dyddiad gweithredol yr hysbysiad (“y dyddiad gweithredol”);

(b)     datgan ei fod yn bwriadu atal dros dro, ar y dyddiad gweithredol, gofrestriad neu gymeradwyaeth y sefydliad, yn unol ag Erthygl 14 a'r Rheoliadau hyn;

(c)     pennu â pha weithgaredd neu weithgareddau busnes bwyd anifeiliaid y mae’r hysbysiad yn ymwneud;

(d)     nodi'r camau adfer sydd eu hangen;

(e)     datgan y dirymir y cofrestriad neu'r gymeradwyaeth heb rybudd pellach ar ben-blwydd cyntaf y dyddiad gweithredol oni chyflawnir camau adfer er boddhad yr awdurdod gorfodi o fewn blwyddyn i'r dyddiad gweithredol; ac

(f)      darparu gwybodaeth am y terfynau amser ar gyfer apelio o dan reoliad 12.

Gweithdrefn ar gyfer dileu ataliad dros dro

9. Pan fo'r awdurdod gorfodi a gyflwynodd yr hysbysiad i weithredwr busnes bwyd anifeiliaid o dan reoliad 8 wedi ei fodloni—

(a)     bod y camau adfer sy'n ofynnol o dan baragraff (2)(e) o'r rheoliad hwnnw wedi eu cymryd; a

(b)     nad yw'r cyfnod ar gyfer gweithredu, a bennir yn y paragraff hwnnw, wedi dod i ben,

rhaid iddo ddileu'r ataliad dros dro ar unwaith a hysbysu gweithredwr y busnes bwyd anifeiliaid i'r perwyl hwnnw.

Gweithdrefn ar gyfer dirymu cofrestriad neu gymeradwyaeth

10.(1) Pan fo awdurdod gorfodi yn bwriadu cymryd camau o dan yr amgylchiadau a nodir yn Erthygl 15 (dirymu cofrestriad neu gymeradwyaeth) rhaid iddo gyflwyno i weithredwr y busnes bwyd anifeiliaid hysbysiad yn unol â pharagraff (2).

(2) Rhaid i hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (1)—

(a)     pennu dyddiad gweithredol yr hysbysiad;

(b)     datgan bod y cofrestriad neu'r gymeradwyaeth, yn ôl y digwydd, wedi ei ddirymu neu ei dirymu;

(c)     pennu â pha weithgaredd neu weithgareddau busnes bwyd anifeiliaid y mae’r dirymiad yn ymwneud;

(d)     nodi pa un neu ragor o'r amodau dirymu a nodir yn Erthygl 15 sy'n gymwys;

(e)     darparu gwybodaeth am y terfynau amser ar gyfer apelio o dan reoliad 12.

(3) Pan fo awdurdod gorfodi wedi dirymu cofrestriad neu gymeradwyaeth o dan y rheoliad hwn, rhaid i’r awdurdod gorfodi—

(a)     gwneud y diwygiadau priodol i'w gofrestr ei hun o sefydliadau busnes bwyd anifeiliaid; a

(b)     trosglwyddo’r wybodaeth angenrheidiol yn brydlon i’r Asiantaeth er mwyn sicrhau y cydymffurfir ag Erthygl 19(3) (diweddaru rhestrau cenedlaethol).

Ffurf y cais ar gyfer diwygio cofrestriad neu gymeradwyaeth

11. Pan fo gweithredwr busnes bwyd anifeiliaid yn dymuno gwneud cais am ddiwygio cofrestriad neu gymeradwyaeth yn unol ag Erthygl 16 (diwygiadau i gofrestriad neu gymeradwyaeth sefydliad), rhaid gwneud cais i'r awdurdod gorfodi ar gyfer yr ardal y lleolir y sefydliad busnes bwyd anifeiliaid perthnasol ynddi, sydd—

(a)     wedi ei lofnodi gan neu ar ran yr ymgeisydd;

(b)     yn cynnwys enw neu enw busnes a chyfeiriad yr ymgeisydd ac, os yw'n wahanol, cyfeiriad y sefydliad;

(c)     yn nodi'r gweithgareddau y mae'r cais am ddiwygiadau yn ymwneud â hwy;

(d)     wedi ei gyfeirio'n gywir at yr awdurdod gorfodi ar gyfer yr ardal y lleolir ynddi’r sefydliad y mae'r cais yn ymwneud ag ef.

Hawliau apelio mewn cysylltiad â chofrestru neu gymeradwyo

12.(1) Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan benderfyniad a wnaed gan awdurdod gorfodi mewn cysylltiad ag—

(a)     cymeradwyo sefydliad o dan Erthygl 13;

(b)     atal dros dro gofrestriad neu gymeradwyaeth sefydliad o dan Erthygl 14;

(c)     dirymu cofrestriad neu gymeradwyaeth sefydliad o dan Erthygl 15; neu

(d)     diwygio cymeradwyaeth sefydliad o dan Erthygl 16,

apelio i lys ynadon.

(2) Bydd y weithdrefn mewn apêl i lys ynadon o dan baragraff (1) ar ffurf cwyn am orchymyn, a bydd Deddf Llysoedd Ynadon 1980([11]) yn gymwys i’r achos.

(3) Y cyfnod pan ganiateir dwyn apêl o dan baragraff (1) yw un mis o'r dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad o'r penderfyniad i'r person sy'n dymuno apelio, ac at ddibenion y paragraff hwn bernir bod gwneud cwyn am orchymyn yn gyfystyr â dwyn yr apêl.

(4) Pan fo llys ynadon, yn dilyn apêl o dan baragraff (1), yn penderfynu bod penderfyniad yr awdurdod gorfodi yn anghywir, rhaid i'r awdurdod roi effaith i benderfyniad y llys.

(5) Pan fo cofrestriad wedi ei atal dros dro neu ei ddirymu, neu gymeradwyaeth wedi ei hatal dros dro neu ei dirymu, caiff y gweithredwr busnes bwyd anifeiliaid a fu’n gweithredu'r sefydliad dan sylw yn union cyn y cyfryw ataliad dros dro neu ddirymiad, barhau i'w weithredu, yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a osodir gan yr awdurdod gorfodi er diogelwch iechyd y cyhoedd, oni bai—

(a)     bod y terfyn amser ar gyfer apelio yn erbyn y penderfyniad i atal dros dro neu ddirymu’r cofrestriad neu gymeradwyaeth wedi dod i ben, heb i apêl gael ei chyflwyno; neu

(b)     pan ddygwyd apêl yn erbyn y penderfyniad hwnnw, bod yr apêl wedi ei phenderfynu'n derfynol neu y rhoddwyd y gorau iddi.

(6) Nid oes dim ym mharagraff (5) sy’n caniatáu i sefydliad busnes bwyd anifeiliaid gael ei weithredu os gosodwyd gorchymyn gwahardd busnes bwyd anifeiliaid, hysbysiad gwahardd brys busnes bwyd anifeiliaid neu orchymyn gwahardd brys busnes bwyd anifeiliaid mewn perthynas â'r sefydliad hwnnw.

Ffioedd am gymeradwyo neu am ddiwygio cymeradwyaeth

13.(1) Rhaid i weithredwr busnes bwyd anifeiliaid sy'n gwneud cais i awdurdod gorfodi am gymeradwyaeth neu am ddiwygio cymeradwyaeth—

(a)     talu'r ffi berthnasol wrth gyflwyno’r cais; a

(b)     os gofynnir iddo, ad-dalu i’r awdurdod gorfodi y costau a dynnir gan yr awdurdod am unrhyw waith dadansoddi gan labordy mewn cysylltiad â’r cais.

(2) Mewn perthynas ag unrhyw gais o’r math y cyfeirir ato ym mharagraff (1), a gyflwynir i’r awdurdod gorfodi, nid oes rhaid i’r awdurdod gorfodi—

(a)     cymryd unrhyw gamau i gymeradwyo sefydliad mewn cysylltiad ag un neu ragor o'i weithgareddau busnes bwyd anifeiliaid hyd nes bo’r ffi berthnasol wedi ei thalu iddo; nac ychwaith

(b)     cymeradwyo sefydliad mewn cysylltiad ag un neu fwy o'i weithgareddau busnes bwyd anifeiliaid hyd nes bo wedi cael ad-daliad yn unol â pharagraff (1)(b).

(3) Pan fo’r sefydliad, y ceisir cymeradwyaeth neu ddiwygio cymeradwyaeth mewn perthynas ag ef, yn sefydliad lle y caniateir cynnal mwy nag un gweithgaredd busnes bwyd anifeiliaid y mae cymeradwyaeth yn ofynnol amdano, bydd gweithredwr y busnes bwyd anifeiliaid yn atebol i dalu ffi berthnasol sengl, sef y fwyaf o’r ffioedd a fyddai fel arall yn daladwy.

(4) Yn y rheoliad hwn ystyr “ffi berthnasol” (“relevant fee”) yw'r ffi briodol a bennir yn Atodlen 3.

RHAN 3

Samplu a dadansoddi

Penodi dadansoddwyr amaethyddol, a’u cymwysterau

14.(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i awdurdod gorfodi benodi un neu ragor o ddadansoddwyr amaethyddol mewn cysylltiad â’i ddyletswydd o dan reoliad 21 (dyletswydd i orfodi).

(2) Bernir bod dadansoddwr amaethyddol sydd eisoes wedi ei benodi gan awdurdod gorfodi o dan adran 67(3)(b) o’r Ddeddf wedi ei benodi at ddibenion paragraff (1).

(3) Rhaid i ddadansoddwr amaethyddol a benodir o dan baragraff (1) feddu’r cymwysterau a’r profiad ardystiedig a bennir ym mharagraff (4).

(4) Y cymwysterau rhagnodedig ar gyfer dadansoddwr at ddibenion adran 67(5) o’r Ddeddf, i'r graddau y mae'r adran honno'n ymwneud â phorthiant i anifeiliaid, a'r cymwysterau gofynnol ar gyfer person sy'n dadansoddi bwyd anifeiliaid at ddibenion y Rheoliadau hyn yw'r canlynol—

(a)     rhaid i'r dadansoddwr fod—

                           (i)    yn Gemegydd Siartredig neu feddu Gradd Meistr mewn Dadansoddi Cemegol a ddyfarnwyd iddo gan y Gymdeithas Gemeg Frenhinol, a

                         (ii)    yn Gymrawd neu Aelod o'r Gymdeithas Gemeg Frenhinol; a

(b)     rhaid i brofiad ymarferol y dadansoddwr o archwilio bwyd anifeiliaid gael ei ardystio gan ddadansoddwr arall a benodwyd yn gyfreithlon o dan adran 67(3) o’r Ddeddf neu o dan y Rheoliadau hyn.

Gweithdrefn mewn perthynas â samplau ar gyfer eu dadansoddi

15.(1) Pan fo swyddog awdurdodedig yn cael sampl ac yn penderfynu y dylid ei dadansoddi at y diben o ganfod a oes, neu a fu, unrhyw doriad o gyfraith bwyd anifeiliaid benodedig, rhaid i’r swyddog rannu’r sampl yn dair rhan, mor gyfartal o ran eu maint ag y bo modd, ac—

(a)     peri bod pob rhan yn cael ei marcio, ei selio a’i chau yn y modd a ragnodir;

(b)     anfon un rhan i’w dadansoddi at y dadansoddwr amaethyddol ar gyfer ardal yr awdurdod gorfodi sy’n awdurdodi’r swyddog awdurdodedig;

(c)     anfon rhan arall at y person y samplwyd y deunydd yn ei fangre, neu at asiant y person hwnnw; a

(d)     cadw a diogelu’r rhan sy’n weddill, fel sampl cyfeirio a seliwyd yn swyddogol.

(2) Os nad yw’r person a weithgynhyrchodd unrhyw ddeunydd a samplwyd o dan y Rheoliadau hyn yn berson y dylid anfon rhan o’r sampl honno ato o dan baragraff (1), mae’r paragraff hwnnw’n cael effaith fel pe rhoddid, yn lle’r cyfeiriad at dair rhan, gyfeiriad at bedair rhan, a bod rhaid i’r swyddog awdurdodedig, o fewn pedwar diwrnod ar ddeg i’r diwrnod samplu, anfon y bedwaredd ran at y gweithgynhyrchydd, ac eithrio pan fo enw’r gweithgynhyrchydd, neu ei gyfeiriad yn y Deyrnas Unedig, yn anhysbys i’r swyddog, ac nad oes modd i’r swyddog, ar ôl gwneud ymholiadau rhesymol, ganfod yr wybodaeth honno.

(3) Rhaid i’r rhan o’r sampl a anfonir at y dadansoddwr amaethyddol gael ei hanfon ynghyd â datganiad a lofnodwyd gan y swyddog awdurdodedig, yn cadarnhau bod y sampl wedi ei chymryd yn y modd a ragnodir.

(4) Rhaid i’r dadansoddwr amaethyddol ddadansoddi’r rhan o’r sampl a anfonir o dan baragraff (1)(b), ac anfon tystysgrif o’r dadansoddiad at y swyddog awdurdodedig, a rhaid i’r swyddog anfon copi ohoni at—

(a)     y person y samplwyd y deunydd yn ei fangre, neu at asiant y person hwnnw; a

(b)     os anfonwyd rhan o’r sampl o dan baragraff (2), at y person yr anfonwyd y rhan honno ato.

(5) Caiff unrhyw berson sy’n gweithredu o dan gyfarwyddyd y dadansoddwr amaethyddol gyflawni unrhyw ddadansoddiad y mae’n ofynnol ei wneud o dan baragraff (4).

(6) Os yw’r dadansoddwr amaethyddol yr anfonwyd y sampl ato o dan baragraff (1)(b) yn penderfynu nad oes modd cyflawni dadansoddiad effeithiol o’r sampl ganddo nac o dan ei gyfarwyddyd, rhaid i’r dadansoddwr hwnnw anfon y sampl at y dadansoddwr amaethyddol ar gyfer ardal arall, ynghyd ag unrhyw ddogfennau a gafwyd gyda’r sampl, a bydd paragraff (4) wedyn yn gymwys fel pe bai’r sampl wedi ei hanfon yn wreiddiol at y dadansoddwr arall hwnnw.

Dadansoddiad eilaidd gan Gemegydd y Llywodraeth

16.(1) Pan fo rhan o sampl a anfonwyd o dan reoliad 15(1)(b) wedi ei dadansoddi ac—

(a)     achos yn yr arfaeth neu wedi ei gychwyn yn erbyn person am drosedd o dan gyfraith bwyd anifeiliaid benodedig; a

(b)     yr erlyniad yn bwriadu cyflwyno tystiolaeth am ganlyniad y dadansoddiad o’r rhan honno o’r sampl,

mae paragraffau (2) i (6) yn gymwys.

(2) O ran y swyddog awdurdodedig—

(a)     caiff, o’i ddewis ei hun;

(b)     rhaid iddo, os gofynnir iddo gan yr erlynydd (os yw’n berson gwahanol i’r swyddog awdurdodedig); neu

(c)     rhaid iddo (yn ddarostyngedig i baragraff (6)) os gofynnir iddo gan y diffynnydd,

anfon y rhan o’r sampl a gadwyd at Gemegydd y Llywodraeth i’w dadansoddi.

(3) Rhaid i Gemegydd y Llywodraeth ddadansoddi, yn y modd a ragnodir, y rhan o’r sampl a anfonir o dan baragraff (2) ac anfon at y swyddog awdurdodedig dystysgrif o’r dadansoddiad, y mae’n rhaid iddi fod wedi ei llofnodi naill ai gan Gemegydd y Llywodraeth neu gan berson a awdurdodwyd ganddo.

(4) Caiff unrhyw berson sy’n gweithredu o dan gyfarwyddyd Cemegydd y Llywodraeth gyflawni unrhyw ddadansoddiad y mae’n ofynnol ei wneud o dan baragraff (3).

(5) Rhaid i’r swyddog awdurdodedig, yn union ar ôl iddo gael tystysgrif o ddadansoddiad Cemegydd y Llywodraeth, ddarparu copi ohoni i’r erlynydd (os yw’n berson gwahanol i’r swyddog awdurdodedig) ac i’r diffynnydd.

(6) Pan wneir cais o dan baragraff (2)(c), caiff y swyddog awdurdodedig rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r diffynnydd, yn gofyn i’r diffynnydd dalu ffi, a bennir yn yr hysbysiad, mewn cysylltiad â’r swyddogaethau a grybwyllir ym mharagraff (3), ac os nad yw’r ffi a bennir yn fwy na naill ai—

(a)     y gost o gyflawni’r swyddogaethau hynny; neu

(b)     y ffi briodol am gyflawni unrhyw swyddogaeth gyffelyb o dan adran 78 o’r Ddeddf,

caiff y swyddog awdurdodedig, os nad yw’r diffynnydd yn cytuno i dalu’r ffi, wrthod cydymffurfio â’r cais a wnaed o dan baragraff (2)(c).

(7) Yn y rheoliad hwn—

mae “diffynnydd” (“defendant”) yn cynnwys darpar-ddiffynnydd; ac

ystyr “y ffi briodol” (“the appropriate fee”) yw pa bynnag ffi y caniateir ei phennu yn unol â darpariaethau adran 78(10) o’r Ddeddf.

Dulliau o anfon sampl derfynol

17. Caniateir anfon sampl derfynol y mae’n ofynnol ei hanfon at berson yn unol ag—

(a)     paragraff 8 o Atodiad I i Reoliad 152/2009;

(b)     adran 77(1) neu (2) neu adran 78(1)(a), (2) neu (4) o’r Ddeddf; neu

(c)     rheoliad 15(1), (2) neu (6) neu 16(2),

drwy unrhyw ddull addas sy’n cynnal cyfanrwydd y sampl cyn ei dadansoddi, neu drwy ei thraddodi â llaw.

Ffurf a statws tystysgrif o ddadansoddiad

18.(1) Rhaid i’r dystysgrif o ddadansoddiad o unrhyw fwyd anifeiliaid sydd i’w hanfon yn unol ag—

(a)     adran 77(4) o’r Ddeddf; neu

(b)     rheoliad 15(4) neu 16(3),

fod yn y ffurf a nodir yn Atodlen 4 a rhaid ei chwblhau yn unol â’r nodiadau yn yr Atodlen honno ac yn unol â pharagraffau 4 a 5 o Ran C o Atodiad II i Reoliad 152/2009.

(2) Rhaid cymryd mewn unrhyw achos bod tystysgrif o ddadansoddiad, gan ddadansoddwr amaethyddol neu gan Gemegydd y Llywodraeth, yn dystiolaeth o’r ffeithiau a ddatgenir yn y dystysgrif—

(a)     os cyflwynwyd copi ohoni i’r parti y’i rhoddir fel tystiolaeth yn ei erbyn ddim llai nag un diwrnod ar hugain cyn y gwrandawiad; a

(b)     os nad yw’r parti y’i rhoddir fel tystiolaeth yn ei erbyn, cyn y seithfed diwrnod cyn y gwrandawiad, wedi cyflwyno i’r parti arall hysbysiad sy’n ei gwneud yn ofynnol fod y person a wnaeth y dadansoddiad yn bresennol.

(3) Bernir bod unrhyw ddogfen, yr honnir ei bod yn dystysgrif o ddadansoddiad at ddibenion paragraff (2), yn dystysgrif o’r fath oni phrofir i’r gwrthwyneb.

Dadansoddiad ac eithrio yng nghwrs rheolaethau swyddogol

19.(1) Pan fo sampl o fwyd anifeiliaid i gael ei dadansoddi yn unol ag—

(a)     adran 75(1) o’r Ddeddf (sampl a ddadansoddir ar gais y prynwr); neu

(b)     adran 78(1) o’r Ddeddf (dadansoddi pellach gan Gemegydd y Llywodraeth) i’r graddau nad yw’r is-adran honno’n ymwneud â rheolaethau swyddogol,

rhaid dadansoddi yn y dull priodol, os oes un, a nodir yn Rheoliad 152/2009.

(2) Mewn achos pan nad oes dull priodol o ddadansoddi yn Rheoliad 152/2009, rhaid cyflawni’r dadansoddiad yn y modd y cyfeirir ato yn Erthygl 11(1)(a) neu, fel y bo’n briodol, (b) o Reoliad (EC) Rhif 882/2004 fel y’i darllenir ynghyd â Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 669/2009 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran y cynnydd yn lefel rheolaethau swyddogol ar fewnforion o fwyd anifeiliaid penodol a bwydydd penodol nad ydynt yn dod o anifeiliaid ac sy'n diwygio Penderfyniad 2006/504/EC([12]).

Trosedd o lurgunio sampl

20. Mae person sydd—

(a)     yn llurgunio unrhyw ddeunydd er mwyn peri nad yw unrhyw sampl ohono, a gymerir neu a gyflwynir i’w dadansoddi o dan y Rheoliadau hyn, yn cynrychioli’n gywir y deunydd hwnnw; neu

(b)     yn llurgunio neu’n ymyrryd ag unrhyw sampl a gymerwyd neu a gyflwynwyd i’w dadansoddi o dan y Rheoliadau hyn,

yn cyflawni trosedd.

RHAN 4

Dyletswyddau gweithredu a gorfodi

Dyletswydd i orfodi                

21. Dyletswydd pob awdurdod bwyd anifeiliaid o fewn ei ardal yw gweithredu a gorfodi darpariaethau’r Rheoliadau hyn a Rheoliad 183/2005.

Pwerau diofyn Gweinidogion Cymru ac ardal pwerau swyddogion awdurdodedig

22.(1) Os yw Gweinidogion Cymru o’r farn bod cyfraith bwyd anifeiliaid benodedig, ac eithrio’r Ddeddf, wedi ei gorfodi’n annigonol o fewn ardal unrhyw awdurdod gorfodi, caiff Gweinidogion Cymru benodi un neu ragor o bersonau i arfer, o fewn yr ardal honno, y pwerau sy’n arferadwy gan swyddogion awdurdodedig a benodir gan yr awdurdod. Os gofynnir i’r awdurdod wneud hynny gan Weinidogion Cymru, rhaid i’r awdurdod dan sylw ad-dalu i Weinidogion Cymru unrhyw dreuliau yr ardystia Gweinidogion Cymru eu bod yn dreuliau a dynnwyd ganddynt o dan y rheoliad hwn mewn cysylltiad â’r ardal honno.

(2) Ni chaiff swyddog awdurdodedig arfer pwerau o dan y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad ag unrhyw fangre y tu allan i’r ardal y penodwyd y swyddog hwnnw ar ei chyfer, ac eithrio gyda chydsyniad yr awdurdod gorfodi ar gyfer yr ardal y lleolir y fangre honno ynddi.

Diogelu swyddogion awdurdodedig sy’n gweithredu’n ddidwyll

23.(1) Nid yw swyddog awdurdodedig yn atebol yn bersonol mewn cysylltiad ag unrhyw weithred a wneir ganddo—

(a)     wrth weithredu neu honni bod yn gweithredu'r Rheoliadau hyn; a

(b)     o fewn cwmpas cyflogaeth y swyddog,

os gwnaeth y swyddog y weithred honno gan gredu’n ddiffuant fod ei ddyletswydd o dan y Rheoliadau hyn yn peri bod gwneud y weithred yn ofynnol, neu’n rhoi iddo’r hawl i’w gwneud.

(2) Rhaid peidio â dehongli dim ym mharagraff (1) fel pe bai’n rhyddhau unrhyw awdurdod gorfodi o unrhyw atebolrwydd mewn cysylltiad â gweithredoedd eu swyddogion.

(3) Pan ddygir achos yn erbyn swyddog awdurdodedig mewn cysylltiad â gweithred a wneir ganddo—

(a)     wrth weithredu neu honni bod yn gweithredu'r Rheoliadau hyn; ond

(b)     y tu allan i gwmpas cyflogaeth y swyddog,

caiff yr awdurdod indemnio'r swyddog rhag y cyfan neu ran o unrhyw iawndal y gorchmynnir ei dalu neu unrhyw gostau a dynnir os bodlonir yr awdurdod fod y swyddog yn credu'n ddiffuant fod y weithred y gwnaed cwyn yn ei chylch o fewn cwmpas ei gyflogaeth.

(4) At ddibenion y rheoliad hwn rhaid trin dadansoddwr amaethyddol fel swyddog awdurdodedig, pa un a yw ei benodiad yn un amser-cyflawn ai peidio.

RHAN 5

Pwerau gorfodi a darpariaethau cysylltiedig

Hysbysiadau gwella busnes bwyd anifeiliaid

24.(1) Os oes gan swyddog awdurdodedig sail resymol dros gredu bod gweithredwr busnes bwyd anifeiliaid yn methu â chydymffurfio â chyfraith bwyd anifeiliaid benodedig, caiff y swyddog hwnnw, drwy gyflwyno hysbysiad (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “hysbysiad gwella busnes bwyd anifeiliaid”) i'r person hwnnw—

(a)     datgan rhesymau'r swyddog dros gredu bod gweithredwr y busnes bwyd anifeiliaid yn methu â chydymffurfio â chyfraith bwyd anifeiliaid benodedig;

(b)     pennu’r materion sy'n peri bod gweithredwr y busnes bwyd anifeiliaid yn methu â chydymffurfio;

(c)     pennu'r camau y mae’n rhaid i weithredwr y busnes bwyd anifeiliaid eu cymryd, ym marn y swyddog, er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth; a

(d)     ei gwneud yn ofynnol bod gweithredwr y busnes bwyd anifeiliaid yn cymryd y camau hynny, neu gamau sy’n gyfwerth o leiaf â’r camau hynny, o fewn pa bynnag gyfnod (o ddim llai na phedwar diwrnod ar ddeg) a bennir yn yr hysbysiad.

(2) Rhaid i hysbysiad gwella busnes bwyd anifeiliaid ddatgan bod hawl i apelio o dan reoliad 25, a’r terfyn amser priodol ar gyfer dwyn unrhyw apêl o’r fath.

(3) Mae person sy’n methu â chydymffurfio â hysbysiad gwella busnes bwyd anifeiliaid yn cyflawni trosedd.

Hawl i apelio yn erbyn hysbysiadau gwella busnes bwyd anifeiliaid

25.(1) Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan benderfyniad swyddog awdurdodedig i gyflwyno hysbysiad gwella busnes bwyd anifeiliaid apelio i lys ynadon.

(2)  Bydd y weithdrefn mewn apêl i lys ynadon o dan baragraff (1) ar ffurf cwyn am orchymyn, a bydd Deddf Llysoedd yr Ynadon 1980 yn gymwys i'r achos.

(3) Y cyfnod a ganiateir ar gyfer dwyn apêl o dan baragraff (1) yw—

(a)     un mis o’r dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad o'r penderfyniad i'r person sy'n dymuno apelio; neu

(b)     os yw'n fyrrach, y cyfnod a bennwyd yn yr hysbysiad yn unol â rheoliad 24(1)(d),

a bernir bod gwneud cwyn am orchymyn yn gyfystyr, at ddibenion y paragraff hwn, â dwyn yr apêl.

Apelau i Lys y Goron

26. Caiff person a dramgwyddir gan—

(a)     penderfyniad llys ynadon i wrthod yr apêl iddo o dan reoliad 12(1) neu 25(1); neu

(b)     unrhyw benderfyniad gan lys o'r fath i wneud gorchymyn gwahardd busnes bwyd anifeiliaid neu orchymyn gwahardd brys busnes bwyd anifeiliaid,

apelio i Lys y Goron.

Darpariaethau pellach ynglŷn ag apelau

27.(1) Mewn apêl yn erbyn hysbysiad gwella busnes bwyd anifeiliaid caiff y llys naill ai ddileu neu gadarnhau'r hysbysiad ac, os bydd yn ei gadarnhau, caiff wneud hynny naill ai yn ei ffurf wreiddiol neu gyda pha bynnag addasiadau a ystyrir yn briodol gan y llys yn yr amgylchiadau.

(2) Pan fyddai unrhyw gyfnod a bennwyd mewn hysbysiad gwella busnes bwyd anifeiliaid yn unol â rheoliad 24(1)(d) fel arall yn cynnwys unrhyw ddiwrnod pan fo apêl yn erbyn yr hysbysiad hwnnw yn yr arfaeth, rhaid eithrio’r diwrnod hwnnw o’r cyfnod hwnnw.

(3) Rhaid ystyried bod unrhyw apêl yn yr arfaeth at ddibenion paragraff (2) hyd nes penderfynir yr apêl yn derfynol, neu y’i tynnir yn ôl neu y'i dilëir oherwydd diffyg erlyniad.

Gorchmynion gwahardd busnes bwyd anifeiliaid

28.(1) Os—

(a)     collfernir gweithredwr busnes bwyd anifeiliaid am drosedd o dan gyfraith bwyd anifeiliaid benodedig; a

(b)     bodlonir y llys, y collfernir y gweithredwr felly ganddo neu ger ei fron, fod yr amod ynglŷn â risg i iechyd wedi ei fodloni mewn cysylltiad â'r busnes bwyd anifeiliaid dan sylw,

rhaid i’r llys, drwy orchymyn, osod y gwaharddiad priodol.

(2) Bodlonir yr amod ynglŷn â risg i iechyd mewn cysylltiad â busnes bwyd anifeiliaid os bydd unrhyw un o'r canlynol yn cynnwys risg o niwed i iechyd (gan gynnwys unrhyw amhariad, pa un ai yn barhaol neu dros dro), sef—

(a)     y defnydd o unrhyw broses neu driniaeth at ddibenion y busnes;

(b)     adeiladu unrhyw fangre a ddefnyddir at ddibenion y busnes, neu'r defnydd o unrhyw offer at y dibenion hynny; neu

(c)     ansawdd neu gyflwr unrhyw fangre neu offer a ddefnyddir at ddibenion y busnes,

ac, ystyr iechyd yw iechyd anifeiliaid neu, drwy fwyta cynhyrchion anifail o'r fath, iechyd dynol.

(3) Y gwaharddiad priodol yw—

(a)     mewn achos sy’n dod o fewn is-baragraff (a) o baragraff (2), gwaharddiad ar y defnydd o'r broses neu'r driniaeth at ddibenion y busnes;

(b)     mewn achos sy’n dod o fewn is-baragraff (b) o'r paragraff hwnnw, gwaharddiad ar y defnydd o'r fangre neu'r offer at ddibenion y busnes neu unrhyw fusnes bwyd anifeiliaid arall o'r un dosbarth neu ddisgrifiad; ac

(c)     mewn achos sy’n dod o fewn is-baragraff (c) o'r paragraff hwnnw, gwaharddiad ar y defnydd o'r fangre neu'r offer at ddibenion unrhyw fusnes bwyd anifeiliaid.

(4) Os—

(a)     collfernir gweithredwr busnes bwyd anifeiliaid am drosedd o dan gyfraith bwyd anifeiliaid benodedig; a

(b)     bod y llys,  y collfarnwyd y gweithredwr felly ganddo neu ger ei fron, o’r farn ei bod yn briodol gwneud hynny yn holl amgylchiadau’r achos,

caiff y llys, drwy orchymyn, osod gwaharddiad ar weithredwr y busnes bwyd anifeiliaid rhag cymryd rhan mewn rheoli unrhyw fusnes bwyd anifeiliaid, neu unrhyw fusnes bwyd anifeiliaid o ddosbarth neu ddisgrifiad a bennir yn y gorchymyn.

(5) Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl gwneud gorchymyn o dan baragraff (1) neu (4) (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “gorchymyn gwahardd busnes bwyd anifeiliaid”), rhaid i'r awdurdod gorfodi—

(a)     cyflwyno copi o'r gorchymyn i weithredwr y busnes bwyd anifeiliaid perthnasol; a

(b)     yn achos gorchymyn a wnaed o dan baragraff (1), gosod copi o'r gorchymyn mewn man amlwg ar ba bynnag fangreoedd a ddefnyddir at ddibenion y busnes bwyd anifeiliaid fel y cred yr awdurdod sy’n briodol,

a bydd unrhyw berson sy'n torri'r cyfryw orchymyn gan wybod ei fod yn gwneud hynny yn cyflawni trosedd.

(6) Bydd gorchymyn gwahardd busnes bwyd anifeiliaid yn peidio â chael effaith—

(a)     yn achos gorchymyn a wnaed o dan baragraff (1), pan ddyroddir tystysgrif gan yr awdurdod gorfodi i'r perwyl ei fod yn fodlon bod gweithredwr y busnes bwyd anifeiliaid wedi cymryd camau digonol i sicrhau nad yw'r amod ynglŷn â risg i iechyd wedi ei fodloni bellach mewn cysylltiad â'r busnes bwyd anifeiliaid; a

(b)     yn achos gorchymyn a wnaed o dan baragraff (4), pan roddir cyfarwyddyd i’r un perwyl gan y llys.

(7) Rhaid i'r awdurdod gorfodi ddyroddi tystysgrif o dan is-baragraff (a) o baragraff (6) o fewn tri diwrnod ar ôl iddo gael ei fodloni fel y crybwyllir yn yr is-baragraff hwnnw; a phan wneir cais am dystysgrif o’r fath gan weithredwr y busnes bwyd anifeiliaid, rhaid i'r awdurdod—

(a)     penderfynu, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol a beth bynnag o fewn pedwar diwrnod ar ddeg, a yw wedi ei fodloni felly ai peidio; a

(b)     os penderfyna nad yw wedi ei fodloni felly, hysbysu gweithredwr y busnes bwyd anifeiliaid o'r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.

(8) Rhaid i'r llys roi cyfarwyddyd o dan is-baragraff (b) o baragraff (6) os cred y llys, wedi i weithredwr y busnes bwyd anifeiliaid wneud cais, ei bod yn briodol gwneud hynny ar ôl rhoi sylw i holl amgylchiadau'r achos, gan gynnwys, yn benodol, ymddygiad gweithredwr y busnes bwyd anifeiliaid er pan wnaed y gorchymyn; ond ni chaniateir ystyried cais o'r fath os gwneir y cais—

(a)     o fewn chwe mis ar ôl gwneud y gorchymyn gwahardd busnes bwyd anifeiliaid; neu

(b)     o fewn tri mis ar ôl gwneud cais blaenorol am gyfarwyddyd o'r fath gan weithredwr y busnes bwyd anifeiliaid.

(9) Pan fo llys ynadon yn gwneud gorchymyn o dan reoliad 29(2) mewn cysylltiad ag unrhyw fusnes bwyd anifeiliaid, bydd paragraff (1) yn gymwys fel pe bai gweithredwr y busnes bwyd anifeiliaid wedi ei gollfarnu gan y llys am drosedd o dan gyfraith bwyd anifeiliaid benodedig.

(10) Pan fo cyflawni trosedd gan weithredwr busnes bwyd anifeiliaid yn arwain at gollfarnu person arall yn unol â rheoliad 35(1), bydd paragraff (4) yn gymwys mewn perthynas â'r person arall hwnnw fel y mae'n gymwys mewn perthynas â gweithredwr y busnes bwyd anifeiliaid, a rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad ym mharagraff (5) neu (8) at weithredwr y busnes bwyd anifeiliaid yn unol â hynny.

Hysbysiadau a gorchmynion gwahardd brys busnes bwyd anifeiliaid

29.(1) Os bodlonir swyddog awdurdodedig o awdurdod gorfodi fod yr amod ynglŷn â risg i iechyd wedi ei fodloni mewn cysylltiad â busnes bwyd anifeiliaid, caiff y swyddog, drwy gyflwyno hysbysiad i weithredwr y busnes bwyd anifeiliaid perthnasol (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “hysbysiad gwahardd brys busnes bwyd anifeiliaid”) osod y gwaharddiad priodol.

(2) Os bodlonir llys ynadon, pan wneir cais gan swyddog o’r fath, fod yr amod ynglŷn â risg i iechyd wedi ei fodloni mewn cysylltiad ag unrhyw fusnes bwyd anifeiliaid, rhaid i'r llys, drwy orchymyn (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “gorchymyn gwahardd brys busnes bwyd anifeiliaid”) osod y gwaharddiad priodol.

(3) Ni chaiff swyddog o'r fath wneud cais am orchymyn gwahardd brys busnes bwyd anifeiliaid oni chyflwynodd y swyddog, o leiaf un diwrnod cyn dyddiad y cais, hysbysiad i weithredwr y busnes bwyd anifeiliaid perthnasol o'i fwriad i wneud cais am y gorchymyn.

(4) Mae paragraffau (2) a (3) o reoliad 28 yn gymwys at ddibenion y rheoliad hwn, fel y maent yn gymwys at ddibenion y rheoliad hwnnw ond fel pe bai'r cyfeiriad ym mharagraff (2) at risg o niwed i iechyd yn gyfeiriad at risg o niwed o’r fath ar fin digwydd i iechyd.

(5) Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cyflwyno hysbysiad gwahardd brys busnes bwyd anifeiliaid, rhaid i swyddog awdurdodedig o awdurdod gorfodi osod copi o'r hysbysiad mewn man amlwg ar ba bynnag fangreoedd a ddefnyddir at ddibenion y busnes bwyd anifeiliaid fel y cred y swyddog sy’n briodol; a bydd person sy'n torri'r cyfryw hysbysiad gan wybod ei fod yn gwneud hynny yn cyflawni trosedd.

(6) Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl gwneud gorchymyn gwahardd brys busnes bwyd anifeiliaid, rhaid i swyddog awdurdodedig o awdurdod gorfodi—

(a)     cyflwyno copi o'r gorchymyn i weithredwr y busnes bwyd anifeiliaid perthnasol; a

(b)     gosod copi o'r gorchymyn mewn man amlwg ar ba bynnag fangreoedd a ddefnyddir at ddibenion y busnes bwyd anifeiliaid fel y cred y swyddog sy’n briodol,

a bydd person sy'n torri'r cyfryw orchymyn gan wybod ei fod yn gwneud hynny yn cyflawni trosedd.

(7) Bydd hysbysiad gwahardd brys busnes bwyd anifeiliaid yn peidio â chael effaith—

(a)     os na wneir cais am orchymyn gwahardd brys busnes bwyd anifeiliaid o fewn y cyfnod o dri diwrnod sy’n dechrau gyda chyflwyno'r hysbysiad, ar ddiwedd y cyfnod hwnnw; neu

(b)     os gwneir cais o’r fath felly, pan benderfynir y cais neu pan roddir y gorau i’r cais.

(8) Bydd hysbysiad gwahardd brys busnes bwyd anifeiliaid neu orchymyn gwahardd brys busnes bwyd anifeiliaid yn peidio â chael effaith pan fo’r awdurdod gorfodi yn dyroddi tystysgrif i'r perwyl ei fod yn fodlon bod gweithredwr y busnes bwyd anifeiliaid wedi cymryd camau digonol i sicrhau nad yw'r amod ynglŷn â risg i iechyd wedi ei fodloni bellach mewn cysylltiad â'r busnes bwyd anifeiliaid.

(9) Rhaid i'r awdurdod gorfodi ddyroddi tystysgrif o dan baragraff (8) o fewn tri diwrnod ar ôl iddo gael ei fodloni fel y crybwyllir yn y paragraff hwnnw; a phan wneir cais am dystysgrif o’r fath gan weithredwr y busnes bwyd anifeiliaid, rhaid i'r awdurdod—

(a)     penderfynu, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol a beth bynnag o fewn pedwar diwrnod ar ddeg, a yw wedi ei fodloni felly ai peidio; a

(b)     os penderfyna nad yw wedi ei fodloni felly, hysbysu gweithredwr y busnes bwyd anifeiliaid o'r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.

(10) Pan gyflwynir hysbysiad gwahardd brys busnes bwyd anifeiliaid i weithredwr busnes bwyd anifeiliaid, rhaid i'r awdurdod gorfodi ddigolledu'r gweithredwr mewn cysylltiad ag unrhyw golled a ddioddefir oherwydd cydymffurfio â'r hysbysiad—

(a)     oni wneir cais am orchymyn gwahardd brys busnes bwyd anifeiliaid o fewn y cyfnod o dri diwrnod sy’n dechrau gyda chyflwyno'r hysbysiad; a

(b)     oni bai bod y llys yn datgan ei fod yn fodlon, ar ôl gwrando'r cais, fod yr amod ynglŷn â risg i iechyd wedi ei fodloni mewn cysylltiad â'r busnes bwyd anifeiliaid ar yr adeg pan gyflwynwyd yr hysbysiad,

a phenderfynir unrhyw gwestiwn dadleuol ynglŷn â'r hawl i unrhyw ddigollediad neu swm unrhyw ddigollediad sy'n daladwy o dan y paragraff hwn, drwy gymrodeddu.

Pwerau mynediad ac arolygu

30.(1) At ddibenion—

(a)     gweithredu a gorfodi cyfraith bwyd anifeiliaid benodedig; neu

(b)     cynnal ymholiadau, yn unol ag Erthygl 4.2 o Gyfarwyddeb 2002/32/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar sylweddau annymunol mewn bwyd anifeiliaid([13]) er mwyn canfod ffynhonnell sylweddau annymunol penodedig,

caiff swyddog awdurdodedig, yn ddarostyngedig i baragraff (2) ac ar ôl dangos, os gofynnir iddo wneud hynny, ddogfennaeth wedi ei dilysu’n briodol sy’n dangos enw ac awdurdod y swyddog, fynd i mewn i fangreoedd a grybwyllir ym mharagraff (3).

(2) Rhaid i fynediad i fangre o dan y rheoliad hwn, ac eithrio drwy warant a lofnodwyd gan ynad, ddigwydd—

(a)     ar adegau rhesymol; a

(b)     yn achos archwiliadau pan fo angen hysbysu’r meddiannydd ymlaen llaw, ar ôl rhoi rhybudd blaenorol i’r meddiannydd o ddim llai nag wyth awr a deugain.

(3) Y mangreoedd (sef mangreoedd nas defnyddir yn gyfan gwbl nac yn bennaf fel annedd) yw’r canlynol—

(a)     unrhyw fangre y mae gan y swyddog sail resymol dros gredu bod bwyd anifeiliaid wedi cael ei weithgynhyrchu neu ei gynhyrchu neu'n cael ei weithgynhyrchu neu ei gynhyrchu, neu'n cael ei gadw er mwyn ei osod ar y farchnad, ei ymgorffori mewn cynnyrch arall, neu ei ddefnyddio; neu

(b)     unrhyw fangre y mae gan y swyddog sail resymol dros gredu bod ynddi unrhyw fwyd anifeiliaid sydd ym meddiant neu o dan reolaeth meddiannydd y fangre.

(4) Os bodlonir ynad heddwch, ar ôl cael gwybodaeth ysgrifenedig ar lw, fod sail resymol dros fynd i mewn i unrhyw fangre o fath a grybwyllir ym mharagraff (3), a naill ai—

(a)     bod mynediad i'r fangre honno wedi ei wrthod, neu y rhagwelir y’i gwrthodir, a bod hysbysiad wedi ei roi i’r meddiannydd o'r bwriad i wneud cais am warant; neu

(b)     byddai gwneud cais am fynediad neu roi hysbysiad o’r fath yn tanseilio’r diben o fynd i mewn, neu os yw’r achos yn un brys, neu os yw’r fangre heb ei meddiannu, neu’r meddiannydd yn absennol dros dro,

caiff yr ynad, drwy warant a lofnodir ganddo, awdurdodi'r swyddog awdurdodedig i fynd i mewn i'r fangre, gan ddefnyddio grym rhesymol os bydd angen.

(5) Bydd pob gwarant a roddir o dan y rheoliad hwn yn parhau mewn grym am gyfnod o un mis.

(6) Caiff swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i fangre yn rhinwedd naill ai’r rheoliad hwn neu warant a ddyroddwyd oddi tano, fynd â pha bynnag bersonau eraill gydag ef, ynghyd â pha bynnag offer sy’n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol, ac wrth adael y fangre rhaid iddo ei gadael mewn cyflwr mor agos ag y bo’n ymarferol i’w chyflwr pan aeth i mewn iddi.

(7) Mae gan swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu yn rhinwedd gwarant a ddyroddwyd oddi tano, yr hawl i arolygu—

(a)     unrhyw ddeunydd sy’n ymddangos fel pe bai’n fwyd anifeiliaid;

(b)     unrhyw eitem sy’n ymddangos fel pe bai’n gynhwysydd neu’n becyn a ddefnyddir neu y bwriedir ei ddefnyddio i storio, lapio neu becynnu unrhyw fwyd anifeiliaid, neu’n ymddangos fel pe bai’n label neu’n hysbyseb a ddefnyddir neu y bwriedir ei ddefnyddio mewn cysylltiad â bwyd anifeiliaid; neu

(c)     unrhyw gerbyd, peiriant neu offer sy’n ymddangos fel pe bai’n cael ei idefnyddio, neu y bwriedir ei ddefnyddio, mewn cysylltiad â gweithgynhyrchu, cynhyrchu, storio, cludo neu ddefnyddio bwyd anifeiliaid, ac unrhyw broses o weithgynhyrchu, cynhyrchu, storio, cludo neu ddefnyddio bwyd anifeiliaid.

(8) Yn ddarostyngedig i baragraff (10), mae gan swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu warant a ddyroddwyd oddi tano, yr hawl i gymryd sampl ar y fangre honno, yn y modd rhagnodedig, o unrhyw ddeunydd sy’n ymddangos fel pe bai’n fwyd anifeiliaid a weithgynhyrchir, a gynhyrchir, a roddir ar y farchnad neu y bwriedir ei roi ar y farchnad neu'n ddeunydd a ddefnyddir, neu y bwriedir ei ddefnyddio, fel bwyd anifeiliaid.

(9) Heb leihau dim ar bwerau a dyletswyddau swyddog awdurdodedig o ran cymryd samplau yn y modd rhagnodedig, caiff swyddog awdurdodedig gymryd sampl mewn modd ac eithrio'r modd a ragnodir, o unrhyw ddeunydd a werthwyd i'w ddefnyddio fel bwyd anifeiliaid neu y mae gan y swyddog sail resymol dros gredu y bwriedir ei werthu fel y cyfryw.

(10) Pan fo swyddog awdurdodedig, at y diben o gymryd sampl yn unol â pharagraff (8) neu (9), yn cymryd rhan o’r sampl o bob un o un neu ragor o gynwysyddion a arddangosir ar gyfer eu gwerthu drwy fanwerthu, ac nad oes yr un ohonynt yn pwyso mwy na chwe chilogram, caiff perchennog y cynhwysydd neu'r cynwysyddion ei gwneud yn ofynnol bod y swyddog yn prynu'r cynhwysydd neu'r cynwysyddion ar ran yr awdurdod y mae'r swyddog yn gweithredu drosto.

(11) Mae gan swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu yn rhinwedd gwarant a ddyroddwyd oddi tano, yr hawl—

(a)     i’w gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson sy'n cynnal, neu sy’n ymddangos fel pe bai’n cynnal, busnes bwyd anifeiliaid, neu unrhyw berson a gyflogir mewn cysylltiad â busnes o’r fath, yn dangos unrhyw gofnod (ym mha ffurf bynnag y’i cedwir) sy’n ymwneud â chyflawni unrhyw weithgaredd o’r fath yng nghwrs y busnes hwnnw neu sy'n deillio o hynny, ac sydd ym meddiant y person hwnnw neu o dan ei reolaeth; a

(b)     i arolygu a chymryd copïau o unrhyw gofnod, neu unrhyw eitem mewn unrhyw gofnod a ddangosir yn unol ag is-baragraff (a).

(12) Mae gan swyddog awdurdodedig sy'n arfer y pŵer a roddir gan baragraff (11) mewn cysylltiad â chofnod a gedwir ar gyfrifiadur—

(a)     yr hawl ar unrhyw adeg resymol, i gael mynediad i unrhyw gyfrifiadur a chyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig, a ddefnyddir neu a ddefnyddiwyd, neu sy’n ymddangos fel pe bai’n cael ei ddefnyddio neu wedi ei ddefnyddio, mewn cysylltiad â'r cofnod dan sylw, ac i arolygu a gwirio gweithrediad y cyfryw;

(b)     caiff ei gwneud yn ofynnol bod—

                           (i)    y person y defnyddir neu y defnyddiwyd y cyfrifiadur felly ganddo neu ar ei ran, neu

                         (ii)    unrhyw berson sy'n gyfrifol am weithredu'r cyfrifiadur, y cyfarpar neu'r deunydd, neu sydd fel arall yn ymwneud â gweithrediad y cyfrifiadur, y cyfarpar neu'r deunydd,

yn rhoi i'r swyddog awdurdodedig ba bynnag gymorth rhesymol y gofynnir amdano gan y swyddog at y diben hwnnw; ac

(c)     caiff ei gwneud yn ofynnol gynhyrchu’r cofnod, neu ddyfyniad o’r cofnod, mewn ffurf a fydd yn caniatáu ei gludo ymaith.

(13) Yn achos person sy'n cynnal busnes gweithgynhyrchu bwyd anifeiliaid cyfansawdd neu fusnes sydd yn cynnwys hynny, neu sy’n ymddangos fel pe bai’n cynnal busnes o’r fath, pan fo—

(a)     gofyniad yn cael ei wneud o dan baragraff (11)(a) mewn perthynas ag unrhyw fwyd anifeiliaid a fwriedir, neu sy’n ymddangos fel pe bai wedi ei fwriadu, ar gyfer diben maethol penodol; a

(b)     ar yr adeg y gwneir y gofyniad, y cofnod y gwneir y gofyniad mewn cysylltiad ag ef wedi ei gyhoeddi ac ar gael mewn ffurf hygyrch at ddefnydd y cyhoedd,

bernir bod y person y gosodir y gofyniad arno yn cydymffurfio â’r gofyniad, os yw'r person hwnnw, ar yr adeg y gwneir y gofyniad, yn darparu i'r swyddog awdurdodedig sy'n gwneud y gofyniad fanylion cywir a digonol am y cyhoeddiad dan sylw, ac o ble y gellir cael copi ohono.

(14) Mae gan swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu yn rhinwedd gwarant a ddyroddwyd oddi tano, yr hawl i ymafael mewn, ac i gadw, unrhyw gofnod pan fo sail resymol gan y swyddog dros gredu ei fod yn gofnod y gallai fod yn ofynnol fel tystiolaeth mewn achos o dan gyfraith bwyd anifeiliaid benodedig.

(15) Wrth ymafael mewn a chadw unrhyw gofnod a grybwyllir ym mharagraff (14), rhaid i’r swyddog awdurdodedig ddarparu i’r meddiannydd hysbysiad sy’n cynnwys—

(a)     disgrifiad o’r cofnod; a

(b)     datganiad y cedwir y cofnod hyd nes na fydd ei angen mwyach fel tystiolaeth mewn achos o dan gyfraith bwyd anifeiliaid benodedig.

(16) Yn y rheoliad hwn—

mae i “bwyd anifeiliaid cyfansawdd” yr ystyr a roddir i “compound feed” yn Erthygl 3(2)(h) o Reoliad 767/2009; a

rhaid dehongli “bwyd anifeiliaid a fwriedir, neu sy’n ymddangos fel pe bai wedi ei fwriadu, ar gyfer diben maethol penodol” (“feed which is, or appears to be, intended for a particular nutritional purpose”) yn unol â’r diffiniadau o “feed intended for particular nutritional purposes” yn Erthygl 3(2)(o) o’r Rheoliad hwnnw.

(17) Nid oes dim sydd yn y rheoliad hwn yn awdurdodi unrhyw berson, ac eithrio gyda chaniatâd yr awdurdod lleol o dan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981([14]), i fynd i mewn i unrhyw fangre—

(a)     lle y cedwir unrhyw anifail neu aderyn ac arnynt unrhyw glefyd y mae'r Ddeddf honno yn gymwys iddo; a

(b)     sydd wedi ei lleoli mewn man y datganwyd o dan y Ddeddf honno ei fod wedi ei heintio â chlefyd o'r fath.

Pwerau cadw ac ymafael

31.(1) Pan fo swyddog awdurdodedig wedi arolygu neu wedi samplu unrhyw ddeunydd o dan y Rheoliadau hyn, bydd paragraffau (2) i (8) yn gymwys, pan fo’n ymddangos i’r swyddog, wrth wneud y cyfryw arolygiad, neu wrth ddadansoddi samplau a gymerwyd, nad yw’r deunydd yn cydymffurfio â gofynion cyfraith bwyd anifeiliaid benodedig.

(2) Caiff y swyddog awdurdodedig naill ai—

(a)     rhoi hysbysiad i'r person sy'n gyfrifol am y deunydd na chaniateir i’r deunydd, neu unrhyw gyfran benodedig ohono, hyd nes y tynnir yr hysbysiad yn ôl—

                           (i)    cael ei ddefnyddio fel bwyd anifeiliaid; a

                         (ii)    naill ai na chaniateir ei symud neu na chaniateir ei symud ac eithrio i rywle a bennir yn yr hysbysiad; neu

(b)     ymafael yn y deunydd er mwyn i ynad heddwch ymdrin ag ef,

ac mae person sy'n torri gofyniad hysbysiad o dan is-baragraff (a) gan wybod ei fod yn gwneud hynny yn cyflawni trosedd.

(3) Rhaid i swyddog awdurdodedig sy’n arfer y pwerau a roddir gan baragraff (2)(a), cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol a beth bynnag o fewn un diwrnod ar hugain, benderfynu a yw'n fodlon ai peidio fod y deunydd yn cydymffurfio â'r gofynion a grybwyllir ym mharagraff (1) ac—

(a)     os yw wedi ei fodloni felly, tynnu'r hysbysiad yn ôl ar unwaith;

(b)     os nad yw wedi ei fodloni felly, mynd rhagddo i gael ynad heddwch i ymdrin â'r mater o dan baragraff (5).

(4) Pan fo'r swyddog awdurdodedig yn arfer y pwerau a roddir gan baragraff (2)(b) neu'n cymryd camau o dan baragraff (3)(b), rhaid i'r swyddog hysbysu'r person sy'n gyfrifol am y deunydd ynghylch y bwriad i gael ynad heddwch i ymdrin â’r deunydd, ac—

(a)     bydd gan unrhyw berson a allai fod yn agored i’w erlyn o dan ddarpariaethau cyfraith bwyd anifeiliaid benodedig mewn cysylltiad â'r deunydd, os bydd y person hwnnw yn ymddangos gerbron yr ynad heddwch a fydd yn ymdrin â'r deunydd, yr hawl i gael gwrandawiad ac i alw tystion; a

(b)     caiff yr ynad heddwch hwnnw fod yn aelod o'r llys y cyhuddir unrhyw berson ger ei fron o drosedd o dan y darpariaethau hynny mewn perthynas â'r deunydd hwnnw, ond nid oes raid iddo fod yn aelod o’r fath.

(5) Yn ddarostyngedig i baragraff (8), os yw’n ymddangos i ynad heddwch, ar sail pa bynnag dystiolaeth a ystyrir yn briodol gan yr ynad o dan yr amgylchiadau, fod unrhyw ddeunydd y mae ynad heddwch yn ymdrin ag ef o dan y rheoliad hwn, yn methu â chydymffurfio â gofynion y gyfraith bwyd anifeiliaid benodedig yna rhaid iddo gondemnio'r deunydd hwnnw a gorchymyn—

(a)     i’r deunydd hwnnw gael ei ddinistrio neu ei waredu mewn modd a fydd yn atal ei ddefnyddio fel bwyd y bwriedir i bobl ei fwyta neu fel bwyd anifeiliaid; a

(b)     i unrhyw dreuliau a dynnir yn rhesymol mewn cysylltiad â’r dinistrio neu’r gwaredu gael eu talu gan weithredwr y busnes bwyd anifeiliaid.

(6) Os tynnir hysbysiad o dan baragraff (2)(a) yn ôl, neu os bydd yr ynad heddwch sy'n ymdrin ag unrhyw ddeunydd o dan y rheoliad hwn yn gwrthod ei gondemnio, rhaid i'r awdurdod gorfodi ddigolledu perchennog y deunydd am unrhyw ddibrisiant yn ei werth o ganlyniad i'r camau a gymerwyd gan y swyddog awdurdodedig.

(7) Penderfynir unrhyw gwestiwn dadleuol ynglŷn â'r hawl i unrhyw ddigollediad neu swm unrhyw ddigollediad sy'n daladwy o dan baragraff (6) drwy gymrodeddu.

(8) Yn achos deunydd y cyfeirir ato yn Erthygl 15.1 o Reoliad (EC) Rhif 1829/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar fwyd a bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig([15]) sy’n destun awdurdodiad a roddwyd o dan y Rheoliad hwnnw ac a gynhyrchwyd yn unol ag unrhyw amodau sy’n ymwneud â’r awdurdodiad hwnnw ond nad yw’n dwyn y labelu priodol sy’n ofynnol gan Erthygl 25, caiff yr ynad heddwch orchymyn—

(a)     i’r deunydd hwnnw gael ei labelu’n briodol cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, a hynny ar gost gweithredwr y busnes bwyd anifeiliaid; a

(b)     i’r deunydd gael ei ryddhau i ofal y gweithredwr.

Troseddau sy’n ymwneud ag arfer pwerau

32.(1) Mae unrhyw berson sydd yn fwriadol yn rhwystro swyddog awdurdodedig wrth iddo arfer ei bwerau o dan y Rheoliadau hyn neu'n methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad a wneir yn gyfreithlon wrth arfer y cyfryw bwerau yn cyflawni trosedd.

(2) Mae unrhyw berson nad yw’n swyddog awdurdodedig ac sy’n honni ei fod yn gweithredu fel y cyfryw o dan y Rheoliadau hyn yn cyflawni trosedd.

(3) Mae unrhyw berson sy’n datgelu i unrhyw berson arall—

(a)     unrhyw wybodaeth mewn perthynas ag unrhyw broses weithgynhyrchu neu gyfrinach fasnachol a gafwyd ar fangre yr aethpwyd i mewn iddi yn rhinwedd y Rheoliadau hyn, neu

(b)     unrhyw wybodaeth arall a gafwyd yn unol â’r Rheoliadau hyn,

yn cyflawni trosedd oni wneir y datgeliad wrth gyflawni, ac at y diben o gyflawni, swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn.

(4) Nid yw paragraff (3) yn gymwys i atal swyddog awdurdodedig sydd wedi cymryd sampl o dan y Rheoliadau hyn rhag datgelu—

(a)     i'r gweithgynhyrchydd neu i werthwr diwethaf y deunydd, wybodaeth ynglŷn ag o ble y cymerwyd y sampl a'r person y cymerwyd y sampl oddi wrtho a chanlyniadau unrhyw ddadansoddiad o’r sampl honno;

(b)     i unrhyw berson yr oedd ganddo’r deunydd hwnnw yn ei fangre, wybodaeth ynglŷn â chanlyniadau unrhyw ddadansoddiad o'r sampl honno; neu

(c)     unrhyw wybodaeth y mae angen ei datgelu er mwyn atal risg ddifrifol i iechyd pobl neu anifeiliaid neu i'r amgylchedd rhag digwydd.

Atebolrwydd am wariant

33.(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) rhaid i unrhyw symiau sy'n ddyledus i'r awdurdod gorfodi yn rhinwedd Erthygl 54(5) (camau gweithredu mewn achos o beidio â chydymffurfio) o Reoliad 882/2004 gael eu talu i'r awdurdod gan weithredwr y busnes bwyd anifeiliaid os gofynnir iddo wneud hynny.

(2) Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas ag Erthygl 54(2)(g) (mesurau y cyfeirir atynt yn Erthygl 19 ar lwythi a anfonir o drydydd gwledydd) o Reoliad 882/2004.

Cosbau am droseddau

34.(1) Mae person a geir yn euog o drosedd o dan reoliad 5, fel y’i darllenir ynghyd â Thabl 1 o Atodlen 2, neu reoliad 24(3), 28(5), 29(5) neu (6) neu 31(2) yn agored—

(a)     o’i gollfarnu’n ddiannod, i’w garcharu am gyfnod nad yw’n hwy na chwe mis neu i ddirwy, neu’r ddau;

(b)     o’i gollfarnu ar dditiad, i’w garcharu am gyfnod nad yw’n hwy na dwy flynedd neu i ddirwy, neu'r ddau.

(2) Mae person a geir yn euog o drosedd o dan reoliad 5, fel y’i darllenir ynghyd â Thabl 2 o Atodlen 2, neu reoliad 20 neu 32(1) neu (2) yn agored, o’i gollfarnu’n ddiannod, i’w garcharu am gyfnod nad yw’n hwy na chwe mis neu i ddirwy, neu’r ddau.

(3) Mae person a geir yn euog o drosedd o dan reoliad 32(3) yn agored, o’i gollfarnu’n ddiannod, i ddirwy.

Amddiffyniadau

35.(1) Pan gyflawnir trosedd gan unrhyw berson o dan gyfraith bwyd anifeiliaid benodedig o ganlyniad i weithred neu fethiant rhyw berson arall, mae'r person arall hwnnw yn cyflawni’r drosedd a chaniateir ei gyhuddo a'i gollfarnu am y drosedd pa un a ddygir achos yn erbyn y person a enwyd gyntaf ai peidio.

(2) Mewn unrhyw achos am drosedd o dan gyfraith bwyd anifeiliaid benodedig, bydd yn amddiffyniad, yn ddarostyngedig i baragraff (3), os profir—

(a)     bod cyflawni’r drosedd o ganlyniad i gamgymeriad, neu i ddibyniaeth ar wybodaeth a roddwyd i'r cyhuddedig, neu i weithred neu fethiant person arall, neu i ddamwain neu ryw reswm arall y tu hwnt i reolaeth y cyhuddedig; a

(b)     pan fo’r cyhuddedig wedi cymryd pob rhagofal rhesymol ac wedi arfer pob diwydrwydd dyladwy er mwyn osgoi cyflawni trosedd o’r fath gan y cyhuddedig neu gan unrhyw berson o dan ei reolaeth.

(3) Mewn unrhyw achos, os bydd yr amddiffyniad a ddarperir gan baragraff (2) yn cynnwys honiad i'r drosedd gael ei chyflawni o ganlyniad i weithred neu fethiant person arall neu ddibyniaeth ar wybodaeth a roddir gan berson arall, ni fydd gan y cyhuddedig, heb ganiatâd y llys, hawl i ddibynnu ar yr amddiffyniad hwnnw oni bai—

(a)     o leiaf saith diwrnod clir cyn y gwrandawiad; a

(b)     os yw'r cyhuddedig wedi ymddangos gerbron llys o'r blaen mewn cysylltiad â'r drosedd honedig, o fewn mis ar ôl yr ymddangosiad cyntaf o’r fath,

fod y cyhuddedig wedi cyflwyno i'r erlynydd hysbysiad sy’n rhoi pa bynnag wybodaeth sydd gan y cyhuddedig ar gyfer adnabod, neu gynorthwyo i adnabod, y person arall hwnnw.

(4) Mewn unrhyw achos pan honnir bod deunydd wedi torri, neu wedi methu â chydymffurfio â gofynion, cyfraith bwyd anifeiliaid benodedig, mae'n amddiffyniad os yw’r cyhuddedig yn profi bod y deunydd yr honnir i’r drosedd gael ei chyflawni mewn cysylltiad ag ef—

(a)     yn fwyd anifeiliaid y mae Erthygl 25 o Reoliad 183/2005 yn gymwys iddo; a

(b)     y gellid ei allforio’n gyfreithlon yn unol â gofynion Erthygl 12 (bwyd a bwyd anifeiliaid a allforir o’r UE) o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd.

Troseddau gan gyrff corfforaethol neu bartneriaethau Albanaidd

36.(1) Pan brofir bod trosedd o dan gyfraith bwyd anifeiliaid benodedig, a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol, wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad neu’n briodoladwy i unrhyw esgeulustod ar ran—

(a)     unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog arall cyffelyb o'r corff corfforaethol; neu

(b)     unrhyw berson a oedd yn honni bod yn gweithredu yn rhinwedd y cyfryw swyddi,

bernir bod y person a grybwyllir yn is-baragraff (a) neu (b) yn ogystal â’r corff corfforaethol wedi cyflawni’r drosedd honno ac yn agored i gael ei erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.

(2) Ym mharagraff (1) ystyr “cyfarwyddwr” (“director”) mewn perthynas ag unrhyw gorff corfforaethol a sefydlwyd gan neu o dan unrhyw ddeddfiad at y diben o gyflawni unrhyw ymgymeriad o dan berchenogaeth genedlaethol, sef corff corfforaethol y rheolir ei faterion gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol hwnnw.

(3) Pan brofir bod trosedd o dan gyfraith bwyd anifeiliaid benodedig, a gyflawnwyd gan bartneriaeth Albanaidd, wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu’n briodoladwy i unrhyw esgeulustod ar ran partner, bernir bod y partner hwnnw yn ogystal â’r bartneriaeth wedi cyflawni’r drosedd honno ac yn agored i gael ei erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.

Dwyn erlyniadau a therfyn amser ar gyfer erlyniadau

37.(1) Heb leihau dim ar effaith unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud â’r man lle y caniateir dwyn achos, caniateir dwyn achos am drosedd o dan gyfraith bwyd anifeiliaid benodedig yn y man lle y mae'r cyhuddedig yn preswylio neu'n cynnal ei fusnes.

(2) Ni chaniateir cychwyn erlyniad am drosedd o dan y Rheoliadau hyn neu o dan Ran 2 o Reoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cyfansoddiad, Marchnata a Defnyddio) (Cymru) 2016([16]) ar ôl diwedd—

(a)     cyfnod o dair blynedd ar ôl cyflawni’r drosedd; neu

(b)     cyfnod o un flwyddyn ar ôl ei darganfod gan yr erlynydd,

pa un bynnag yw’r cynharaf.

Cyflwyno hysbysiadau

38.(1) O ran unrhyw hysbysiad sydd i’w roi gan awdurdod gorfodi o dan reoliad 8, 9, 10, 24, 29 neu 31—

(a)     rhaid iddo fod mewn ysgrifen ac wedi ei lofnodi gan swyddog awdurdodedig sy’n gweithredu ar ran yr awdurdod gorfodi;

(b)     os yw’n honni ei fod yn dwyn llofnod (gan gynnwys ffacsimili o lofnod, sut bynnag y’i hatgynhyrchwyd) person y mynegir ei fod yn swyddog awdurdodedig, rhaid barnu, oni phrofir i’r gwrthwyneb, ei fod wedi ei ddyroddi’n briodol gan swyddog awdurdodedig o’r fath;

(c)     yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid ei roi i’r gweithredwr busnes bwyd anifeiliaid neu i’r person a grybwyllir yn rheoliad 31(2)(a) drwy—

                           (i)    ei draddodi i’r person hwnnw;

                         (ii)    ei adael, neu ei anfon mewn llythyr rhagdaledig wedi ei gyfeirio at y person hwnnw yn ei swyddfa;

                       (iii)    yn achos cwmni neu gorff corfforedig, drwy ei draddodi i ysgrifennydd neu glerc y cwmni neu’r corff corfforedig yn swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r cwmni neu’r corff, neu drwy ei anfon mewn llythyr rhagdaledig wedi ei gyfeirio at yr ysgrifennydd neu’r clerc yn y swyddfa honno; neu

                        (iv)    yn achos unrhyw berson arall, drwy ei adael, neu ei anfon mewn llythyr rhagdaledig wedi ei gyfeirio at y person hwnnw yn ei breswylfa arferol neu ei breswylfa olaf sy’n hysbys.

(2) Pan nad oes modd, yn ymarferol ar ôl gwneud ymholiadau rhesymol, canfod enw a chyfeiriad y person y dylid cyflwyno’r hysbysiad iddo, neu pan fo’r fangre lle cynhelir busnes bwyd anifeiliaid heb ei meddiannu, caniateir cyfeirio’r hysbysiad at “perchennog” neu “meddiannydd” y fangre lle cynhelir y busnes bwyd anifeiliaid, a’i draddodi i ryw berson yn y fangre honno, neu os nad oes unrhyw berson y gellir ei draddodi iddo yn y fangre, caniateir gosod yr hysbysiad neu gopi ohono ar ryw ran amlwg o’r fangre.

(3) O ran unrhyw hysbysiad sydd i’w roi gan awdurdod gorfodi o dan reoliad 30—

(a)     rhaid iddo fod mewn ysgrifen ac wedi ei lofnodi gan swyddog awdurdodedig sy’n gweithredu ar ran yr awdurdod gorfodi;

(b)     os yw’n honni ei fod yn dwyn llofnod (gan gynnwys ffacsimili o lofnod, sut bynnag y’i hatgynhyrchwyd) person y mynegir ei fod yn swyddog awdurdodedig, rhaid barnu, oni phrofir i’r gwrthwyneb, ei fod wedi ei ddyroddi’n briodol gan swyddog awdurdodedig o’r fath;

(c)     rhaid iddo fod wedi ei gyfeirio at “perchennog” neu “meddiannydd” y fangre a rhaid ei draddodi i ryw berson yn y fangre honno, neu os nad oes unrhyw berson y gellir ei draddodi iddo yn y fangre, rhaid gosod yr hysbysiad neu gopi ohono ar ryw ran amlwg o’r fangre.

RHAN 6

Diwygiadau a dirymiadau

Diwygiadau canlyniadol

39.(1) Mae Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009([17]) wedi eu diwygio yn unol â pharagraff (2).

(2) Yn Atodlen 2 (diffiniad o gyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol)—

(a)     hepgorer paragraff (b); a

(b)     ym mharagraff (d), yn lle “Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid a Gorfodi) (Cymru) 2005” rhodder “Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid, Samplu etc. a Gorfodi) (Cymru) 2016”.

Dirymiadau

40. Mae’r offerynnau a bennir yng ngholofn gyntaf y Tabl yn Atodlen 5 wedi eu dirymu i’r graddau a bennir yn yr ail golofn.

 

 

Vaughan Gething

Y Dirprwy Weinidog Iechyd, un o Weinidogion Cymru

15 Mawrth 2016

                    ATODLEN 1        Rheoliad 2

Cyfraith Bwyd Anifeiliaid Benodedig

Rhan IV o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970, i’r graddau y mae’n ymwneud â phorthiant ar gyfer anifeiliaid

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009([18]), i’r graddau y maent yn ymwneud â bwyd anifeiliaid

Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cyfansoddiad, Marchnata a Defnyddio) (Cymru) 2016([19])

Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid, Samplu etc. a Gorfodi (Cymru) 2016

Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor, sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, i’r graddau y mae’n ymwneud â bwyd anifeiliaid

Rheoliad (EC) Rhif 1829/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar fwyd a bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig([20]), i’r graddau y mae’n ymwneud â bwyd anifeiliaid

Rheoliad (EC) Rhif 1831/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ychwanegion sydd i'w defnyddio mewn maethiad anifeiliaid([21])

Rheoliad 882/2004, i’r graddau y mae’n ymwneud â bwyd anifeiliaid

Rheoliad 183/2005

Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 669/2009 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran y cynnydd yn lefel rheolaethau swyddogol ar fewnforion o fwyd anifeiliaid penodol a bwydydd penodol nad ydynt yn dod o anifeiliaid ac sy'n diwygio Penderfyniad 2006/504/EC, i’r graddau y mae’n ymwneud â bwyd anifeiliaid

Rheoliad 767/2009

                    ATODLEN 2        Rheoliad 5

Darpariaethau Penodedig o Reoliad 183/2005

Tabl 1

Darpariaeth benodedig

Crynodeb o’r pwnc

Erthygl 9(2)

Gofyniad bod rhaid i weithredwyr busnes bwyd anifeiliaid gofrestru unrhyw sefydliad sydd o dan eu rheolaeth gyda’r awdurdod cymwys, a chyflenwi gwybodaeth berthnasol a’i diweddaru’n gyson

Erthygl 11

Gwahardd gweithredwr busnes bwyd anifeiliaid rhag gweithredu heb gofrestru neu, os yw’n ofynnol, heb gymeradwyaeth

Erthygl 23(1), fel y’i darllenir ynghyd ag Erthygl 24 (mesurau interim)

Gofyniad bod rhaid i weithredwyr busnes bwyd anifeiliaid sy’n mewnforio bwyd anifeiliaid o drydydd gwledydd gydymffurfio ag amodau penodol ynglŷn â tharddiad y bwyd anifeiliaid, a diogelwch y bwyd anifeiliaid ei hunan

Erthygl 25

Gofyniad bod rhaid i fwyd anifeiliaid a gynhyrchir i’w allforio i drydydd gwledydd, gan gynnwys bwyd anifeiliaid ar gyfer anifeiliaid nad ydynt yn cynhyrchu bwyd, fodloni darpariaethau Erthygl 12 o Reoliad 178/2002

Tabl 2

Darpariaeth benodedig

Crynodeb o’r pwnc

Erthygl 5(1), fel y’i darllenir ynghyd ag Atodiad I

Gofyniad bod rhaid i weithredwyr busnes bwyd anifeiliaid sy’n cymryd rhan mewn cynhyrchu sylfaenol a gweithgareddau cysylltiedig penodedig gydymffurfio â’r darpariaethau perthnasol yn Atodiad I

Erthygl 5(2), fel y’i darllenir ynghyd ag Atodiad II

Gofyniad bod rhaid i weithredwyr busnes bwyd anifeiliaid ac eithrio rhai sy’n cymryd rhan mewn cynhyrchu sylfaenol a gweithgareddau cysylltiedig penodedig gydymffurfio â’r darpariaethau perthnasol yn Atodiad II

Erthygl 5(3)

Gofyniad bod rhaid i weithredwyr busnes bwyd anifeiliaid gydymffurfio â meini prawf microbiolegol penodedig a chyrraedd targedau penodol

Erthygl 5(5), fel y’i darllenir ynghyd ag Atodiad III

Gofyniad bod rhaid i ffermwyr gydymffurfio â’r darpariaethau yn Atodiad III wrth fwydo anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd

Erthygl 5(6)

Gofyniad bod rhaid i weithredwyr busnes bwyd anifeiliaid a ffermwyr gaffael a defnyddio bwyd anifeiliaid sy’n tarddu, yn unig, o sefydliadau cofrestredig neu sefydliadau a gymeradwywyd

Erthygl 6(1), fel y’i darllenir ynghyd ag Erthygl 6(2)

Gofyniad bod rhaid i weithredwyr busnes bwyd anifeiliaid ac eithrio rhai sy’n cymryd rhan mewn cynhyrchu sylfaenol a gweithgareddau cysylltiedig sefydlu a chynnal gweithdrefnau ysgrifenedig sy’n seiliedig ar HACCP

Erthygl 6(3)

Gofyniad bod rhaid i weithredwyr busnes bwyd anifeiliaid adolygu a gwneud unrhyw addasiadau angenrheidiol i’r gweithdrefnau HACCP pan addesir unrhyw gam yn eu gweithrediad

Erthygl 7(1)

Gofyniad bod rhaid i weithredwyr busnes bwyd anifeiliaid ddarparu tystiolaeth i’r awdurdodau cymwys o gydymffurfiaeth ag Erthygl 6 a diweddaru eu dogfennaeth yn gyson

Erthygl 17(2)

Gofyniad bod rhaid i weithredwyr busnes bwyd anifeiliaid sy’n gweithredu fel masnachwyr yn unig ac nad ydynt yn cadw unrhyw gynhyrchion yn eu mangreoedd, ddarparu datganiad o gydymffurfiaeth i’r awdurdod cymwys

                    ATODLEN 3   Rheoliad 13(4)

Ffioedd sy’n Daladwy am Gymeradwyaethau

Gweithgaredd sy’n ei gwneud yn ofynnol cymeradwyo’r sefydliad

Ffi (£)

Gweithgynhyrchu yn unig, neu weithgynhyrchu a rhoi ar y farchnad, sylweddau y cyfeirir atynt yn Erthygl 10(1)(a) neu (b) o Reoliad 183/2005, ac eithrio’r ychwanegion bwyd anifeiliaid a bennir yn rheoliad 2(4), neu rag-gymysgeddau o’r ychwanegion hynny

451.00

Rhoi ar y farchnad sylweddau y cyfeirir atynt yn Erthygl 10(1)(a) neu (b) o Reoliad 183/2005, ac eithrio’r ychwanegion bwyd anifeiliaid a bennir yn rheoliad 2(4), neu rag-gymysgeddau o’r ychwanegion hynny

226.00

Unrhyw rai o’r gweithgareddau y cyfeirir atynt ym Mhwynt 10 o’r Adran sydd â’r Pennawd “Facilities and Equipment” yn Atodiad II i Reoliad 183/2005

451.00

                    ATODLEN 4       Rheoliad 18

Ffurf Tystysgrif o Ddadansoddiad

Tystysgrif o Ddadansoddiad Bwyd Anifeiliaid

Rwyf i,……………….……………, (mewnosoder enw) y dadansoddwr, sydd â’i lofnod isod, ar gyfer(1) ……………………….……………………………… .…………………………………………………………yn ardystio fy mod wedi cael, ar(2)………….…… oddi wrth(3)…………………………………………

un rhan o sampl o(4)………………………… …… …………...…………….……………………………………………………………………………...ar gyfer ei dadansoddi, a bod y rhan honno wedi ei selio a’i chau yn briodol ac wedi ei marcio(5)…………………

…………...…………….…………………

ac wedi ei hanfon ynghyd â label neu ddogfennaeth neu farc arall (noder fel y bo’n briodol) a oedd yn cynnwys y canlynol(6)……………………………… …………………………………….………………

………………………………………………………………………………………………………..

………………………………………………………………………………………………………..

………………………………………………………………………………………………………..

ac ynghyd â datganiad llofnodedig bod y sampl wedi ei chymryd yn y modd a ragnodir gan y gyfraith.

 

Rwyf yn datgan bod y rhan o’r sampl wedi ei dadansoddi gennyf i neu o dan fy nghyfarwyddyd i, a bod canlyniadau’r dadansoddiad fel a ganlyn:(7)…… ………..….………………………………………….. ………………………………………………………..........................................................................................

………………………………………………………………………………………………………..………………………………………………………………………………………………………..………………………………………………………………………………………………………..………………………………………………………………………………………………………..

………………………………………………………………………………………………………..

………………………………………………………………………………………………………..

………………………………………………………………………………………………………..………………………………………………………………………………………………………..…………………………………………………………………………………………..………………………………………………………………………………………………………….………………………………………………………………………………………………………..………………………………………………………………………………………………………..

……………………………………………………………………………………………………..………………………………………………………………………………………………………..………………………………………………………………………………………………………..………………………………………………………………………………………………………….………………………………………………………………………………………………………..………………………………………………………………………………………………………..

Llofnod y dadansoddwr:…………………………………………Dyddiad……………………

Cyfeiriad:………………………………………………………………………………………………

 

Nodiadau ar gyfer llenwi’r dystysgrif:

1.

Mewnosoder enw’r awdurdod lleol.

 

2.

Mewnosoder dyddiad.

 

3.

Mewnosoder enw’r person sy’n cyflwyno’r sampl i’w dadansoddi a’r dull o’i chludo.

 

4.

Mewnosoder enw’r deunydd neu’r disgrifiad a roddwyd ohono.

 

5.

Mewnosoder y marc adnabod sydd ar y sampl a’r dyddiad samplu a ddangosir.

 

6.

Noder y manylion sydd wedi eu marcio, eu labelu neu eu dogfennu rywfodd arall.

 

7.

Mewnosoder y canlyniadau perthnasol, y casgliadau a dynnir o’r canlyniadau hynny ac unrhyw sylwadau perthnasol eraill. Helaethwch yr adran hon fel y bo angen.

 

                    ATODLEN 5       Rheoliad 40

Dirymiadau

 

Rheoliadau

Graddau’r dirymiad

Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid a Gorfodi) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/3368) (Cy. 265)

Y Rheoliadau cyfan

Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Sylweddau Annymunol Penodol) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/3256) (Cy. 296)

Y Rheoliadau cyfan

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009 (O.S. 2009/3376) (Cy. 298)

Rheoliad 51 ac Atodlen 7

Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Samplu a Dadansoddi a Sylweddau Annymunol Penodedig) (Cymru) 2010 (O.S. 2010/2287) (Cy. 199)

Rheoliadau 4, 5, 6, 7, 21, 22, a 23 ac Atodlen 1

Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid a Gorfodi) a Bwyd Anifeiliaid (Cymru) (Diwygio) 2013 (O.S. 2013/3207) (Cy. 317)

Y Rheoliadau cyfan

 



([1])           1970 p. 40. Trosglwyddwyd y swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan “the Ministers”, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672, a throsglwyddwyd hwy yn ddiweddarach i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 i’r Ddeddf honno. Mewnosodwyd adran 74A gan baragraff 6 o Atodlen 4 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68). Diwygiwyd adran 84 gan O.S. 2004/3254.

([2])           1972 p. 68. Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) ac fe’i diwygiwyd gan Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7).

([3])           O.S. 2005/1971. Mae’r swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan y dynodiad hwn wedi eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 i’r Ddeddf honno. Nid yw’r dynodiad yn cynnwys mesurau yn ymwneud â bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys cynhyrchion meddyginiaethol (gan gynnwys rheolyddion twf) na chynhyrchion meddyginiaethol y bwriedir eu defnyddio mewn bwyd anifeiliaid, ac eithrio darpariaeth sy’n ymwneud â sylweddau gwella treuliadwyedd, sefydlogyddion fflora’r perfedd, neu sylweddau sy’n cael effaith ffafriol ar yr amgylchedd.

([4])           O.S. 2008/1792.

([5])           O.S. 2010/2690. Nid yw’r dynodiad yn cynnwys gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys cynhyrchion meddyginiaethol a fwriedir ar gyfer eu defnyddio mewn bwyd anifeiliaid, ac eithrio darpariaeth mewn perthynas â sylweddau sy’n cael effaith ffafriol ar yr amgylchedd, yn gwella treuliadwyedd neu’n sefydlogi fflora’r perfedd.

([6])           OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t 1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) Rhif 652/2014 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod darpariaethau ar gyfer rheoli gwariant mewn perthynas â’r gadwyn fwyd, iechyd anifeiliaid a lles anifeiliaid, ac mewn perthynas ag iechyd planhigion a deunydd atgynhyrchiol planhigion (OJ Rhif L 189, 27.6.2014, t 1).

 

([7])           OJ Rhif L 165, 30.4.2004, t 1. Diwygiwyd y Rheoliad hwn ddiwethaf gan Reoliad (EU) Rhif 652/2014 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 189, 27.6.2014, t 1).

([8])           OJ Rhif L 35, 8.2.2005,t 1. Diwygiwyd y Rheoliad hwn ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 2015/1905 (OJ Rhif L 278, 23.10.2015, t 5).

([9])           OJ Rhif L 54, 26.2.2009, t 1. Diwygiwyd y Rheoliad hwn ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 709/2014 (OJ Rhif L 188, 27.6.2014, t 1).

([10])         OJ Rhif L 229, 1.9.2009, t 1. Diwygiwyd y Rheoliad hwn ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 939/2010 (OJ Rhif L 277, 21.10.2010, t 4).

([11])         1980 p. 43.

([12])         OJ Rhif L 194, 25.7.2009, t  11. Diwygiwyd yr offeryn hwn ddiwethaf gan Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 2016/24 (OJ Rhif L 8, 13.1.2016, t 1).

([13])         OJ Rhif L 140, 30.5.2002, t 10. Diwygiwyd yr offeryn hwn ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 2015/186  (OJ Rhif L 31, 7.2.2015, t 11). Mae’r lefelau trothwy y cyfeirir atynt yn Erthygl 4.2 ac a nodir yn Atodiad II wedi eu diwygio ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 744/2012 (OJ Rhif L 219, 17.8.2012, t 5).

([14])         1981 p. 22.

([15])         OJ Rhif L 268, 18.10.2003, t 1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 298/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 97, 9.4.2008, t 64).

([16])         O.S. 2016/386 (W.120)

([17])         O.S. 2009/3376 (Cy. 298).

([18])         O.S. 2009/3376 (Cy. 298).

([19])         O.S. 2016/386 (Cy. 120)

([20])         OJ Rhif L 268, 18.10.2003, t 1. Diwygiwyd y Rheoliad hwn ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 298/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 97, 9.4.2008, t 64).

([21])         OJ Rhif L 268, 18.10.2003, t 29. Diwygiwyd y Rheoliad hwn ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 2015/2294 (OJ Rhif L 324, 10.12.2015, t 3).